Sut mae helpu adar yr ardd?

  • Cyhoeddwyd
Dau aderyn yn bwyta ar fwydwr adra

A hithau'n benwythnos Big Garden Birdwatch yr RSPB rhwng 28-30 Ionawr, pam y dylen ni gymryd yr amser i fwynhau gwylio adar yr ardd? A sut mae eu denu nhw yno tybed? Yr adarwr Gethin Jenkins-Jones sy'n rhoi ni ar ben ffordd.

I mi, un o'r pethe gorau am wylio adar yw ei fod mor gynwysedig. Mae adar o'n cwmpas le bynnag inni, felly gallwn eu mwynhau ar unrhyw adeg.

Ac oes os gennych ardd, mae gennych hefyd y cyfle i ddenu mwy o adar i'ch ardal ac i helpu gynnal poblogaethau lleol. Mae gwylio adar yr ardd yn barod o ddiddordeb mawr i lawer yn y wlad - pob blwyddyn mae Prydeinwyr yn talu tua £250 miliwn ar fwyd iddynt.

Ond pe bai pawb yn gwybod mwy am adar, hyd yn oed y rhai cyffredin oll, nid oes amheuaeth gennyf i y byddai pawb yn eu gwerthfawrogi ac eisiau trio eu helpu, yn enwedig yn ystod misoedd caled y gaeaf.

Felly beth sydd mor sbesial am adar yr ardd a sut mae denu nhw?

Un o'r pethau mwyaf diddorol amdanynt (ac adar yn gyffredinol) yw eu hecoleg, pa bynnag rhywogaeth.

Dodwy pwysau ei hun mewn 10 diwrnod

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Titw Tomos Las

Gad i ni ffocysu ar un o'n hadar mwyaf cyfarwydd - titw tomos las. Gyda phwysau o ond 11g (fel darn arian £2) mae'r titw yn medru dodwy mwy na phwysau ei hun mewn cyn lleied a 10 diwrnod yn y gwanwyn, wrth ddodwy un wy 1.1g yn ddyddiol yn y nyth.

Dychmygwch famau dynol yn rhoi genedigaeth i fabi pob diwrnod am 15-20 diwrnod yn olynol ac mae'r ffaith yma yn sicr yn un drawiadol! Ac ar ôl i'r wyau ddeor, mae rhaid iddi fwydo pob cyw tua chant lindys bach neu bry' yn ddyddiol am 20 diwrnod er mwyn iddynt oroesi'n ddigon hir i adael y nyth. Dwi'n siŵr bydd rhan fwyaf o famau yn dweud bod un plentyn yn fwy na'n ddigon!

Mae edrych ar adar yr ardd hefyd yn dda i'n hiechyd meddwl. Heb sgrin i edrych arno, gall eu joio am ychydig ddod a llawer o lonyddwch meddwl i ni, a'n gwneud yn fwy cynhyrchiol am weddill y dydd.

Ac yn y byd sydd ohoni heddiw, nid oes amheuaeth bod cael ddiddordeb o'r fath i ddianc o weddill y byd yn hynod o fuddiol.

Cyfrinachau a dirgelion adar

Ffynhonnell y llun, Thorsten Spoerlein/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Turtur Dorchog

Peth arall sy'n gwneud adar yr ardd mor ddiddorol yw'r cyfrinachau a dirgelion maent yn gadw o hyd. Er enghraifft, daeth y turtur dorchog (Eurasian collared dove) - rhywogaeth sy'n gyffredin iawn yn ein gerddi - i Brydain ond yn 1955 ar ôl lledaeniad anferth y boblogaeth yn Ne-ddwyrain Ewrop o'r 1930au. Beth achosodd y twf? Does neb yn gwybod yn sicr.

Enghraifft arall yw'r drudwy, sy'n ymgasglu mewn heidiau anferth yn y gaeaf yn y gwyll cyn clwydo. Beth yw pwrpas y hedfan diangen am sbel yn ystod oerfel caled y gaeaf? Eto does neb wir yn siŵr.

Ffynhonnell y llun, Jake Stephen/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Drudwy yn Aberystwyth

Dwi'n siŵr bydd darganfyddiadau anhygoel am ein hadar cyfarwydd yn y blynyddoedd i ddod, ond dwi'n siŵr hefyd ni fyddwn erioed yn gwybod popeth.

Felly sut mae helpu adar yr ardd?

Y peth cyntaf byddai'n argymell yw rhoi bwyd allan iddynt, yn enwedig yn ystod y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, David Briard/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nico

I ddenu pincod, beth am brynu hadau blodau'r haul. Bydd y rhain yn debygol o ddenu'r adar mwyaf pert, fel y nico (goldfinch) a'r llinos werdd (European greenfinch).

Ffynhonnell y llun, Mark L Stanley/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llinos werdd

I rywogaethau'r titw ac adar y to, peth ychwanegol sy'n aml yn llwyddiannus yw blociau neu beli o fraster suet. Bydd y rhain yn eu helpu rhoi braster er mwyn goroesi tymereddau isel nosweithiau'r gaeaf.

Os ydych yn hoff o fronfreithod (song thrush), bydd hi'n syniad hefyd rhoi afalau ar y llawr yn agos at loches llwyni.

Os bydd y tywydd yn troi'n oerach 'to, efallai byddwch hefyd yn denu coch dan-adain (redwing) - 'deryn syn treulio'r haf yn Sgandanafia a Rwsia.

Gallwch hefyd helpu adar gan nodi beth rydych yn gweld ac yn eu rhoi ar-lein. Yr arolwg blynyddol mwyaf adnabyddus yw Big Garden Birdwatch yr RSPB, dolen allanol, sy'n digwydd eleni rhwng yr 28-30 Ionawr.

Cofrestrwch am ddim ar-lein a nodwch beth ydych yn weld yn eich gardd am gyfnod o un awr. Mae bron miliwn o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn, ac mae'n gyfle da i weld sut mae poblogaethau ein hadar yn newid.

Gobeithio byddwch yn ymuno a chael hwyl yn ogystal â gwerthfawrogiad pellach am yr adar rydym yn gweld pob dydd. Maent i gyd yn sbesial iawn.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig