Gobaith y bydd gweilch y pysgod yn nythu eto ger Llyn Brenig
- Cyhoeddwyd
Mae gobaith y bydd gweilch y pysgod yn dychwelyd i Lyn Brenig, ar ôl i fandaliaid ymosod ar eu safle nythu ym mis Ebrill y llynedd.
Cafodd llwyfan y nyth ei dorri gyda llif gadwyn, ychydig ddyddiau'n unig ar ôl i'r adar ddodwy ŵy cynta'r tymor.
Er i gadwraethwyr adeiladu llwyfan nythu arall gerllaw, cafodd ei ddefnyddio gan bar o wyddau.
Cafodd gwaith o adfer safle nythu'r gweilch ei amharu oherwydd difrod yn sgil Storm Arwen ym mis Tachwedd, pan ddaeth coed i lawr gerllaw gan ei gwneud yn amhosib cael peiriannau at y lleoliad.
Y bwriad yw codi llwyfan nythu yn union ble'r oedd yr hen un, ac mae staff yn Llyn Brenig - y gronfa ddŵr ar Fynydd Hiraethog - eisoes wedi codi polyn ar gyfer y nyth.
'Hyder rhesymol'
Dywedodd Nick Kite, llefarydd ar ran Dŵr Cymru, perchnogion y gronfa, na chafodd y gweilch unrhyw niwed yn sgil yr ymosodiad, ond er i'r adar aros o gwmpas yr ardal drwy'r haf, wnaethon nhw ddim dodwy rhagor o wyau.
"Mae gennym luniau ar gamera ohonynt yn yr ardal drwy gydol 2021, ac mae hynny'n rhoi hyder rhesymol inni y byddan nhw'n dychwelyd yn 2022.
"Os allwn ni roi nyth iddyn nhw yn y man lle'r oedd y nyth arall, dwi'n credu y gallwn fod yn ffyddiog."
Roedd yr adar hefyd wedi gwrthod nythod eraill a gafodd eu paratoi ar ôl i'w nyth gwreiddiol gael ei ddinistrio.
"Wnaethon nhw jest penderfynu: 'na'," meddai Mr Kite.
"Maen nhw isio'r nyth yn y fan yna, felly dyna'n union fyddan ni'n ei roi iddyn nhw."
Chafodd y fandaliaid mo'u dal, ond mae diogelwch ar y safle wedi cael ei uwchraddio i rwystro'r un peth rhag digwydd eto.
Difrod Storm Arwen
Bydd safle'r nyth yn fwy agored erbyn hyn hefyd, gan bod cymaint o goed wedi dod i lawr yn ystod Storm Arwen, ac eraill angen eu dymchwel er mwyn diogelwch.
"Maen nhw'n eitha' hoff o allu gweld yr holl ffordd o'u cwmpas felly mae'r ffaith y bydd rhaid inni dorri rhagor o goed i wneud y safle'n ddiogel, a chlirio lle iddyn nhw yn mynd i fod yn well."
Mae gweilch y pysgod yn mudo o wledydd mor bell i'r de â Senegal a Gambia.
Nid oedd y gweilch a wnaed yn ddigartref gan y fandaliaid y llynedd wedi bod i Lyn Brenig o'r blaen fel pâr bridio.
Mae Mr Kite yn credu y gallai'r ardal gynnal mwy nag un pâr bridio bob tymor.
"Mae'n rhaid inni fod yn ofalus i beidio gosod y nythod yn rhy agos at ei gilydd," meddai.
"Ar hyn o bryd mae'n annhebygol y byddwn yn cynnig nyth arall iddyn nhw o gwmpas Llyn Brenig. Ond mae nythod eraill yn yr ardal sy'n wag."
Yn ystod yr haf mae Llyn Brenig yn cynnig digon o fwyd i'r gweilch, gyda 1,000 o bysgod yn cael eu gollwng i'r llyn bob wythnos.
Mae gweilch y pysgod hefyd yn nythu mewn ardaloedd eraill o Gymru, yn cynnwys Afon Dyfi ger Machynlleth, ac Afon Glaslyn ger Beddgelert.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021
- Cyhoeddwyd3 Mai 2021
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2019