Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 13-13 Benetton

  • Cyhoeddwyd
Dragons v BenettonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gêm gyfartal rhwng y Dreigiau a Benetton

Ar ôl i Benetton drechu'r Dreigiau 23-9 yng Nghwpan Her Ewrop yn gynharach yn y mis, roedd y canlyniad nos Wener dipyn yn fwy cadarnhaol gyda'r Cymry'n osgoi colli o drwch blewyn.

Yn dilyn sawl camgymeriad yn ystod yr hanner cyntaf, roedd y tîm cartref ar ei hôl hi o 3-10 ar yr egwyl.

Cic gosb arall i'r Eidalwyr yn yr ail hanner cyn i'r Dreigiau ddeffro.

Cais gan y capten Ross Moriarty - a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf ers tri mis oherwydd anaf - a dwy gic gosb o droed Sam Davies yn ystod yr ail hanner.

Ond, cerdyn coch i Elliot Dee yn y munudau olaf am daflu'i ysgwydd at ben Joaquin Riera, a Tommaso Albornoz yn methu cic gosb hwyr fyddai wedi sicrhau'r pwyntiau i'r gwrthwynebwyr.

Y sgôr yn 13-13 ar y chwiban olaf a'r Dreigiau'n siomedig gyda'u perfformiad, er yn falch eu bod wedi osgoi colli.

Pynciau cysylltiedig