Rheolau diesel coch yn bryder i adeiladwyr a chymunedau gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder y bydd rheolau newydd i gyfyngu ar y defnydd o ddiesel coch yn cael effaith niweidiol ar y diwydiant adeiladu a chymunedau gwledig.
Mae cyfarwyddwr un cwmni adeiladu blaenllaw yn Sir Gaerfyrddin yn rhybuddio y bydd rhaid iddo wario £200,000 yn ychwanegol ar filiau tanwydd bob blwyddyn o ganlyniad i'r newidiadau.
Mae yna bryder hefyd y bydd cyfyngu ar ddefnydd diesel coch yn amharu ar allu cymunedau gwledig i godi arian trwy gyfrwng teithiau tractorau.
Fe gyhoeddwyd y newidiadau yn y gyllideb ddwy flynedd yn ôl, ond mi fyddan nhw yn dod i rym ar 1 Ebrill eleni.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd y rheolau newydd yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Beth sy'n newid?
Mae diesel coch yr un peth â diesel gwyn cyffredin, ar wahân i'r ffaith bod y tanwydd wedi staenio'n goch er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau.
Mae'r dreth ar ddiesel coch 46.81 ceiniog yn llai nac ar ddiesel gwyn, ac yn y gorffennol mae wedi cael ei ganiatáu mewn peiriannau adeiladu ac at ddibenion eraill.
O 1 Ebrill 2022 fe fydd diesel coch ond yn cael ei ganiatáu ar gyfer y tasgau canlynol:
At ddefnydd amaethyddol, tyfu bwyd, pysgodfeydd a choedwigaeth - mae hyn yn cynnwys torri gwrychoedd, clirio eira a graeanu ffyrdd;
Ar y rheilffyrdd;
Ar gyfer gwresogi cartrefi;
Er mwyn cynnal a chadw clybiau chwaraeon amatur;
Fel tanwydd i gychod a llongau;
I bweru peiriannau ffeiriau teithiol a'r syrcas.
Ni fydd hawl defnyddio diesel coch mwyach yn y diwydiant adeiladu, i redeg generaduron a pheiriannau cloddio - rhywbeth sydd yn peri pryder i Dafydd Jones, un o gyfarwyddwyr cwmni adeiladu TRJ o Rydaman.
"Mae'n mynd i gostio £200,000 ychwanegol y flwyddyn i ni mewn costau tanwydd, yn y dreth ychwanegol," meddai.
"Blwyddyn ddiwethaf, fe warion ni rhyw £750,000 ar danwydd. Ar ôl mis Ebrill, fe fydd y bil yn bron i £1m.
"Mae costau popeth wedi mynd lan. Mae hwn, ar ben popeth arall, yn mynd i roi gwasgedd ofnadwy ar y diwydiant adeiladu."
Dywedodd y Swyddfa Cyllid a Thollau taw'r nod oedd cwrdd â "thargedau i wella ansawdd aer a newid hinsawdd".
"Fe fydd y newidiadau treth yn golygu y bydd y mwyafrif o ddefnyddwyr diesel coch nawr yn talu yr un dreth am ddiesel â modurwyr o fis Ebrill 2022, sydd yn adlewyrchiad mwy teg o effaith eu hallyriadau," meddai llefarydd.
"Fe fydd hyn yn hybu mwy o ddefnydd o beiriannau a cherbydau effeithlon, tanwyddau glanach neu ddefnyddio llai o danwydd."
'Halen ar y briw'
Mae Dafydd Jones wedi cefnogi galwadau i ohirio'r newidiadau.
"Bydden ni yn gofyn plîs gwnewch rywbeth amdano fe, achos ar ôl dwy flynedd mewn amgylchiadau ofnadwy, mae dod â hwn mewn nawr fel dodi halen ar y briw," meddai.
Mae aelod seneddol yr ardal, Jonathan Edwards, wedi cadarnhau y bydd yn codi'r mater gyda'r Trysorlys.
Yn y gymuned amaethyddol, mae yna bryder hefyd y bydd tynhau'r rheolau dros ddefnyddio diesel coch yn cael effaith ar deithiau tractorau, sydd yn ffordd boblogaidd o godi arian ar gyfer achosion da.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Swyddfa Cyllid a Thollau na fydd teithiau tractorau yn cael eu hystyried fel "defnydd amaethyddol derbyniol" ac y bydd rhaid defnyddio diesel gwyn ar gyfer y teithiau ar y ffordd fawr.
Mae hynny wedi siomi Wyn Thomas o elusen Tir Dewi.
'Llai o arian, llai o ymwybyddiaeth'
"Yn enwedig yn ystod Covid mae yna lot fawr o bobl wedi bod yn codi arian i ni, ac yn bwysicach efallai, yn codi ymwybyddiaeth trwy gynnal teithiau tractorau, gyda 50 i 100 o dractorau yn mynd mas o wahanol bentrefi, ac mae wedi bod yn hyfryd i weld e," meddai.
"Os ydy'r rheolau yma yn mynd i ddod mewn, yn amlwg mae llai o bobl yn mynd i fynd ar y teithiau tractorau yma achos mae'r gost yn mynd i ddwblu wrth fynd o ddiesel coch i ddiesel gwyn - ond yn fwy na hynny, mae'r ffwdan.
"Mae ffermwyr yn mynd â'r tractor o'u fferm nhw, sydd wastad yn rhedeg ar ddiesel coch, a dyw'r rheiny ddim yn mynd i ddraenio'r tanc i gyd mas a'i lanw fe gyda diesel gwyn jest er mwyn mynd am dair awr ar daith tractor.
"Dyw e ddim yn gwneud synnwyr iddyn nhw. Llai o arian, llai o ymwybyddiaeth, a llai o bobl yn cael yr hwyl o fod yn rhan o'r diwrnod 'ma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd6 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020