Pryder y bydd prinder nwyddau adeiladu yn parhau
- Cyhoeddwyd

Yn ôl yr FMB mae 82% o'u haelodau wedi gweld prisiau deunyddiau yn codi
Fe allai prinder mewn peth deunydd a nwyddau adeiladu barhau tan yr haf, yn ôl dau sefydliad sy'n cynrychioli'r diwydiant.
Mae Ffederasiwn y Masnachwyr Nwyddau Adeiladu (BMF) a Chymdeithas y Nwyddau Adeiladu (CPA) yn rhybuddio hefyd y gallai hyn arwain at oedi a phrisiau uwch.
Ar hyn o bryd mae nwyddau fel sment, coed dur, slatiau llechi to, briciau a nwyddau trydanol i'r stafell 'molchi yn brin iawn.
Mewn datganiad ar y cyd mae'r sefydliadau'n dweud fod cynnydd hefyd mewn galw, a bod hyn yn ei gwneud hi'n anodd i gyflenwyr a chynhyrchwyr sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o stoc.
Mae'r sefyllfa hefyd yn cael effaith ar brisiau, ac yn ôl yr FMB mae 82% o'u haelodau wedi gweld prisiau'n codi.
Cyfnodau clo yn cael effaith
Yn rhannol, mae'r prinder oherwydd cynnydd mewn gwaith adeiladu a gwaith gwella tai yn ystod 2020, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Roedd hyn yn ei dro wedi arwain at arafu cynhyrchu deunydd yn rhai ffatrïoedd yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hyn wedi rhoi pwysau ar y gadwyn gyflenwi fyth ers hynny.

Mae Enzo Sauro yn rhagweld y bydd yn rhaid i adeiladwyr godi eu prisiau
Dwedodd Enzo Sauro o gwmni Sauro Homes yng Nghwm Gwendraeth bod nifer o fusnesau "dan bwysau ariannol o ganlyniad i'r ffaith bod yna brinder a phrisiau yn codi".
Mae ei gwmni e'n arbenigo mewn tai ffrâm pren.
"Mae llawer o'r coed yn dod o Sweden," meddai, "ac ar hyn o bryd yn mynd i America am eu bod nhw yn barod i dalu pris uwch ar y foment na beth ni yn ei dalu fan hyn.
"Felly yn anffodus bydd yn rhaid i brisiau godi yn y cwpl fisoedd nesaf."
Mae Mr Sauro hefyd yn bryderus y bydd yn rhaid i adeiladwyr godi eu prisiau o ganlyniad i hyn.

Dywedodd Daniel James bod rhaid archebu deunyddiau "wythnosau 'mlaen llaw"
Yn ôl Daniel James o DP Building Supplies Llanboidy ac Arberth, mae'n mynd yn "anoddach i gael gafael ar eitemau fel sment", ac maen nhw yn gorfod archebu "wythnosau 'mlaen llaw".
Ond dy'n nhw dal ddim yn sicr pryd fydd y llwyth nesaf yn cyrraedd.
O ran coed a phren, maen nhw'n archebu pedair wythnos ymlaen llaw, a dywedodd Mr James nad yw'n gweld "unrhyw arwydd fod y sefyllfa yn mynd i wella yn y tymor byr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020