Y Canghellor yn addo mwy o arian i Gymru yn ei gyllideb

  • Cyhoeddwyd
Rishi SunakFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Rishi Sunak £360m y flwyddyn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru

Mae'r Canghellor wedi amlinellu pecyn gwerth £30bn i helpu economi'r DU yn sgil coronafeirws.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, fod arian eisoes yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru i'w cynorthwyo "mewn amgylchiadau eithriadol".

Dywedodd fod y gyllideb yn dangos bod Llywodraeth y DU yn "cadw ei haddewidion i lefelu'r cenhedloedd a'r rhanbarthau" wrth helpu "taclo coronafeirws a llifogydd".

Yn ystod ei gyllideb fe gyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak y byddai £360m y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd.

Wrth siarad yn y Senedd brynhawn Mercher, dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans: "Hyd yn oed gyda'r arian ychwanegol y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi yn y Gyllideb heddiw, prin ei fod yn mynd â ni yn ôl i'r man lle'r oeddem 10 mlynedd yn ôl."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Catrin Haf Jones

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Catrin Haf Jones

Yng nghyllideb gyntaf llywodraeth Boris Johnson, addawodd y canghellor £30bn i hybu'r economi, gan gynnwys £12bn mewn mesurau i fynd i'r afael â'r coronafeirws.

Roedd yn cynnwys ymestyn tâl salwch i weithwyr y DU ac addewid i gael gwared ar drethi busnes i gwmnïau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn Lloegr.

Mae gwariant ychwanegol ar wasanaethau yn Lloegr fel arfer yn arwain at gynnydd tebyg mewn cyllidebau yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Dim ond i drethdalwyr yn Lloegr y mae'r addewid ar drethi busnes a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y DU heddiw yn berthnasol gan fod gennym ein cynlluniau ein hunain ar gael yng Nghymru.

"Rydym yn aros am fanylion pellach gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r cynlluniau a gyhoeddwyd a byddwn yn ystyried sut y gellir targedu unrhyw gyllid ychwanegol orau i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau fel rhan o'n blaenoriaethau gwariant."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth y DU fod y £360m ar ben y £600m a addawyd ar gyfer 2020-21 yn yr adolygiad gwariant fis Medi diwethaf.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Mae'r gyllideb hon yn dangos bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei haddewidion i lefelu cenhedloedd a rhanbarth y DU a sicrhau ffyniant i Gymru.

"Rydyn ni'n cefnogi Llywodraeth Cymru mewn amgylchiadau eithriadol - er mwyn taclo coronafeirws a'r llifogydd diweddar."

Dywedodd y Canghellor ei fod hefyd yn darparu £640m yn ychwanegol i Lywodraeth yr Alban, £210m i Ogledd Iwerddon a £240m ar gyfer bargeinion dinas a thwf newydd.

Mae'r gyllideb yn addo dyblu'r swm sy'n cael ei wario ar amddiffynfeydd llifogydd yn Lloegr, i £5.2bn.

Doedd dim sôn am arian parod penodol yn gysylltiedig â llifogydd ar gyfer Cymru, er bod y Trysorlys wedi dweud y byddai'r gwledydd datganoledig yn elwa o arian ychwanegol trwy fformiwla Barnett.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gofyn am gymorth ychwanegol i fynd i'r afael ag effaith stormydd diweddar.

Dywedodd Rebecca Evans fod Cymru "wedi cael ychydig o gyllid ychwanegol yn y gyllideb heddiw" ond eu bod wedi pwysleisio yn ystod trafodaethau gyda'r Trysorlys bod y llifogydd mor "eithriadol" yng Nghymru nes bod modd cyfiawnhau cyfraniad o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth y DU.

Mae'r Trysorlys hefyd wedi amlinellu arian ar gyfer y cynlluniau canlynol:

  • Datblygu ffordd osgoi A483 Pant Llanymynech;

  • £55m ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru;

  • Cyflwyno band eang galluog gigabit i'r ardaloedd anoddaf eu cyrraedd, ynghyd â chynlluniau i wella cysylltedd 4G ledled y DU;

  • Gwelliannau hygyrchedd ar gyfer gorsaf reilffordd y Drenewydd;

  • £12m a £4m i dde Cymru a Sir Benfro i ariannu band eang ffibr llawn;

  • Cefnogi adolygiad economaidd annibynnol o Borth y Gorllewin sy'n ymestyn ledled Cymru a Gorllewin Lloegr;

  • Ymrwymiad gan y Trysorlys i sefydlu presenoldeb yng Nghymru i sicrhau bod blaenoriaethau Cymru yn ganolog i wneud penderfyniadau economaidd.

Fe gadarnhaodd hefyd y bydd S4C yn gallu hawlio ad-daliad Treth ar Werth gwerth £15m pob blwyddyn o'r flwyddyn nesaf.

Yn ymarferol dydy'r trefniant ddim yn golygu cynnydd neu ostyngiad yng nghyllid S4C, ond mae'n golygu eu bod nhw yn ôl ar yr un trefniant â darlledwyr eraill fel y BBC ac ITN.

Bydd cymorthdaliadau ar gyfer tanwydd a ddefnyddir mewn cerbydau oddi ar y ffordd - sy'n cael ei adnabod fel disel coch - yn cael eu dileu "i'r mwyafrif o sectorau" ymhen dwy flynedd.

Ond bydd y cymorthdaliadau disel coch yn parhau i ffermwyr a gweithredwyr rheilffyrdd.

Gan gyfeirio at doriadau ar drethi busnes yn Lloegr, dywedodd Paul Davies, arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn y Cynulliad: "Fe fydd ein cyfeillion ochr arall i Bont Hafren ar eu hennill, ond oherwydd gweinyddiaeth Lafur Cymru yng Nghymru fyddwn ni ddim yn gwneud hynny."

Cafodd y setliad ariannol ei feirniadu gan Blaid Cymru.

Dywedodd eu harweinydd Adam Price: "Nid yw'r Ceidwadwyr yn gallu gwneud y peth iawn o hyd - bydd cyllid ar gyfer ein llywodraeth ddatganoledig yn dal i fod yn is nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl."