Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Rygbi Caerdydd 29-27 Leinster
- Cyhoeddwyd
Gyda chic gosb lwyddiannus gan Jarrod Evans ar y chwiban olaf, llwyddodd Caerdydd i guro Leinster o drwch blewyn o 29-27 nos Sadwrn.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Caerdydd dros Leinster ers 2011.
Er i Leinster ennill pwyntiau cynta'r gêm gyda chic gosb Ross Byrne yn y munudau agoriadol, Caerdydd oedd ar y blaen erbyn hanner amser, 13-10.
Parhaodd yr ymwelwyr i herio Caerdydd yn yr ail hanner - wedi i James Botham gael cerdyn melyn, fe wnaeth James Tracy a Scott Penny sgorio dau gais o fewn 10 munud i'w gilydd i Leinster.
Ond Caerdydd aeth â hi yn y diwedd diolch i ddau gais gan Owen Lane a Hallam Amos, a dau drosiad a phum gic gosb o droed Jarrod Evans.