Y Bencampwriaeth: Hull City 2-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Hull City fwynhau buddugoliaeth gyfforddus brynhawn Sadwrn wrth drechu Abertawe 2-0 yn y Bencampwriaeth.
Dyma oedd colled gyntaf Abertawe ers pedair gêm, diolch i ddwy gôl yn yr hanner gyntaf gan Tom Eaves a Keane Lewis-Potter.
Fe wnaeth Hull fanteisio ar amddiffyn gwan gan Abertawe, gan sgorio'u gôl gyntaf o fewn pum munud a dyblu'r fantais rhyw ddeg munud yn ddiweddarach.
Fodd bynnag, mae Abertawe'n parhau uwchlaw Hull yn y gynghrair, gan ddal ymlaen i'r 17eg safle wrth i Hull esgyn i'r 18fed.