Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Nottingham Forest
- Cyhoeddwyd
Roedd cryn her yn wynebu tîm y brifddinas wrth iddynt groesawu Nottingham Forest ddydd Sul yn y Bencampwriaeth.
Roedd Forest ar rediad cryf ac wedi ennill pedair gêm yn olynol a byddai buddugoliaeth yn eu codi i'r chwech uchaf.
Roedd Morrison, rheolwr Caerdydd wedi gwneud pump newid ers y gêm ddiwethaf, ac yn eu plith roedd dau chwaraewr newydd sydd wedi ymuno ar fenthyg yr wythnos hon sef Alfie Doughty (Stoke City) a Jordan Hugill (Norwich a fu ar fenthyg yn West Brom).
Cafodd Hugill y dechrau delfrydol wrth i ergyd gan Perry Ng gyrraedd ei draed ac fe roliodd y bêl i'r rhwyd ar ôl chwe munud o'r gêm.
Y Cymro, Brennan Johnson, oedd yn creu cyfleon i'r ymwelwyr, ond roedd amddiffyn Caerdydd yn delio gyda phob bygythiad. Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda'r Adar Gleision ar y blaen.
Doedd dim newidiadau i'r timau yn yr ail hanner ond o fewn 12 munud daeth Isaak Davies i'r cae yn lle Max Watters, ac o fewn eiliadau roedd yn bygwth Forest gyda chroesiad at Hugill o flaen gôl yr ymwelwyr.
Roedd Davies yn y lle cywir i roi Caerdydd ymhellach ar y blaen a gyda llai na hanner awr i fynd daeth taran o ergyd gan Joe Ralls o du allan y blwch cosb - fe darodd bostyn Forest gan syrthio i Isaak Davies a sgoriodd ail gôl Caerdydd.
Ond doedd yr ymwelwyr ddim am ildio ac yn yr amser ychwanegol fe sgoriodd Keinan Davis.
Cafwyd perfformiad da gan Gaerdydd a bydd gêm fel hon wedi gwneud lles mawr i hyder y tîm.