Galw am weithredu i atal 'dileu enwau Cymraeg o'r map'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r digrifwr Tudur Owen wedi bod yn ymgyrchu i geisio diogelu enwau Cymraeg ar lefydd

"Mae'r unigolion yn gallu perchnogi'r eiddo - ond y cwestiwn ydy: ai nhw sydd pia'r hanes?"

Dyna gwestiwn Tudur Owen. Ers blynyddoedd, mae'r digrifwr a'r cyflwynydd wedi bod yn ymgyrchu i geisio diogelu enwau Cymraeg ar lefydd.

Mae'r sylw diweddaraf yn cyfeirio at ddadl sy'n corddi ar gyfryngau cymdeithasol mewn cyswllt ag enw eiddo ger Gorslas yn Sir Gaerfyrddin. Enw'r tŷ yw 'Hakuna Matata'.

Mae hen fapiau yn dangos ardal ger Llyn Llech Owain ar gyrion Gorslas yn glir fel 'Banc Cornicyll'.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl perchennog y tŷ, 'Hakuna Matata' oedd yr enw ar y tir pan wnaethon nhw ei brynu

Ers y flwyddyn 2000, mae'r mapiau diweddaraf wedi cael gwared ar yr enw hanesyddol Cymraeg hwnnw, ac yn nodi enw'r adeilad ar y rhan yna o dir fel 'Hakuna Matata'.

Dyma gystrawen o'r iaith Swahili sy'n golygu rhywbeth tebyg i "does 'na ddim gofidiau". Geiriau ddaeth yn gyfarwydd iawn yn sgil y ffilm Disney enwog, Lion King.

Disgrifiad o’r llun,

Mae hen fap yn dangos yr enw Banc-cornicyll

Mae colli'r enw gwreiddiol wedi siomi Tudur Owen.

"Mae'n ddadl gymhleth achos mae'n rhwydd hynt i rywun alw ei eiddo yn unrhyw beth, dwi'n meddwl. Achos dwi'n nabod pobl - ffrindiau, Cymry Cymraeg sydd wedi symud dramor ac wedi glaw eu tai yn enwau Cymraeg," dywedodd.

"Ond pan mae rhywun yn cymryd hen eiddo fel Banc Cornicyll ac yn newid yr enw, ac mae'r enw 'na wedyn yn cael ei ddileu oddi ar y mapiau swyddogol, mae hwnnw'n rhywbeth eitha' difrifol ac mae o yn codi cwestiynau mawr am y dyfodol, am ein hunaniaeth."

Yn sgil y drafodaeth ar Twitter ac mewn erthyglau newyddion, roedd awgrym bod enw'r fferm Banc Cornicyll wedi ei newid gan y perchnogion presennol i Hakuna Matata.

Ond mae rhaglen Newyddion S4C wedi ymweld â'r safle, ac wedi darganfod taw ar ddamwain y mae'r enw gwreiddiol wedi diflannu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debyg mai ar ddamwain y diflannodd yr enw gwreiddiol, yn ôl perchennog y tŷ, Sara Davies

Prynodd Sara Davies a'i gŵr y tir chwarter canrif yn ôl, pan nad oedd adeiladau yno.

"Pan brynon ni'r tir yn wreiddiol, doedd dim enw ar y fferm," meddai.

"Doedd dim adeiladau yma. Fe brynon ni'r caeau, ac felly roedden ni'n adeiladu ar safle newydd.

"Doedden ni ddim yn gwybod ein bod ni'n colli enw hanesyddol yn y lle cynta'.

"Yn amlwg pe bawn i'n gwybod fod enw hanesyddol yma, bydden ni wedi cadw'r enw hwnnw. Ma' fy nheulu i, a theulu fy ngŵr, rydyn ni i gyd yn siaradwyr Cymraeg."

Ond mae'r enw Banc Cornicyll wedi diflannu oddi ar fapiau'r Arolwg Ordnans ers 2000.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y cyfreithiwr Simon Chandler, mae angen addysgu pobl am hanes ardaloedd ac enwau gwreiddiol

Mae'r cyfreithiwr Simon Chandler yn rhan o gynllun o'r enw 'Diogelwn' sy'n anelu i warchod enwau Cymraeg ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae gan nifer o dai yng Nghymru enwau sydd â phwysigrwydd o ran hanes yr ardal, neu gysylltiad gyda'r gorffennol a ry'n ni eisiau amddiffyn hynny, yn rhannol drwy addysgu pobl," meddai.

Yn syml, mae'r cynllun yn gofyn i bobl sy'n bwriadu gwerthu eiddo i gynnwys cymal penodol yn y cytundeb gwerthu a'r trosglwyddiad er mwyn atal prynwyr a'u holynwyr mewn teitl rhag newid enw'r tŷ yn y dyfodol.

Ychwanegodd Mr Chandler: "Yn amlwg, mae 'na rai fyddai'n awyddus i newid yr enw ar ôl dod i wybod am ei bwysigrwydd, a ma' 'na elfen o orfodaeth yma hefyd fel bod rhywun sy'n prynu eiddo ag iddo enw Cymraeg yn addo i beidio.

"Fe fydd y cytundeb yn eu hatal a bydd yna ganlyniadau posib os y byddan nhw wedyn yn newid yr enw."

Disgrifiad o’r llun,

Ers y flwyddyn 2000, 'Hakuna Matata' sydd wedi ei roi fel enw i'r adeilad ar fapiau swyddogol

Mae Tudur Owen yn teimlo bod angen gwneud mwy i sicrhau nad yw enwau lleoedd yn diflannu'n ddamweiniol yn y dyfodol, gan ychwanegu fod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ymyrryd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn deall cryfder y teimladau wrth geisio gwarchod enwau lleoedd Cymraeg a'i bod yn cynnal ymgynghoriad.

"Rydym yn croesawu ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw, sy'n cau ar 22 Chwefror," ychwanegodd llefarydd.