Seiclwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ger Corwen

  • Cyhoeddwyd
A5Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y seiclwr ei daro ger yr arwyddion yma ar y ffordd mewn i Lidiart-y-Parc

Mae seiclwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Sir Ddinbych ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar yr A5 rhwng Corwen a Llangollen toc wedi 17:30.

Yn ôl y llu fe gafodd y seiclwr ei daro gan gerbyd Mitsubishi Shogun yn ardal Llidiart-y-Parc.

Er gwaethaf ymdrechion nyrs oedd yn yr ardal a phlismon a gyrhaeddodd y digwyddiad o fewn munudau, cafodd y dyn ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu yn ymchwilio ac yn annog unrhyw un sydd â lluniau dash-cam o'r cerbyd neu'r seiclwr cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig