Y Bencampwriaeth: Barnsley 0-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Sicrhaodd Uche Ikpeazu y dechrau perffaith i'w yrfa yng nghrys Chaerdydd drwy sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Barnsley yn y Bencanpwriaeth nos Fercher.
Ag yntau wedi arwyddo ar fenthyg o Middlesbrough am weddill y tymor, fe ddangosodd ei gryfder mewn brwydr gyda'r amddiffynwyr cartref ac wrth ddarganfod cefn y rhwyd.
Ei gôl wedi 71 munud oedd un o'r ychydig uchafbwyntiau mewn gêm ddigon ddi-fflach.
Er iddyn nhw sicrhau'r pwyntiau, mae'r Adar Gleision yn parhau yn yr 20fed safle gyda 29 o bwyntiau, ond maen nhw wedi lleihau'r bwlch ag Abertawe sydd un safle'n uwch gyda 32 o bwyntiau.
Y tîm cartref gafodd cyfleoedd gorau'r hanner cyntaf, gyda Josh Benson a Devante Cole yr agosaf at sgorio.
Daeth gôl Ikpeazu ond wyth munud wedi iddo ddod i'r maes yn lle Alfie Doughty, sydd ei hun ar fenthyg o Stoke City.
Roedd Barnsley'n credu iddyn nhw unioni'r sgôr gyda 94 o funudau ar y cloc diolch i ergyd Leya Iseka, ond fe benderfynwyd bod yna achos o gamsefyll.
Gan sicrhau ail fuddugoliaeth mewn pedwar diwrnod, mae'n golygu fod Caerdydd naw pwynt uwchben safleoedd y cwymp.