Arestio bachgen yn dilyn galwadau 'bygythiol' i ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 16 oed wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad i gyfres o alwadau ffôn "bygythiol" i ysgolion yn Sir Ddinbych.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddechrau nos Fercher eu bod wedi cael eu hysbysu ynghylch nifer o alwadau i ysgolion "yn y 24 awr diwethaf".
Cafodd ymchwiliad ei lansio i olrhain y galwr ac roedd yna bresenoldeb heddlu fwy amlwg "o amgylch yr ysgolion dan sylw i roi sicrwydd".
Dywed datganiad y llu bod bachgen 16 oed wedi cael ei arestio o ganlyniad a'i fod "yn parhau yn y ddalfa".
Ychwanegodd na all wneud sylw pellach, oni bai am gadarnhau "nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad yma".