Rudolph Hess a Dad: Propaganda Natsïaidd yn yr atig
- Cyhoeddwyd
"Beth ydych chi'n disgwyl ffeindio mewn atig? Hen addurniadau Nadolig, cyfrifiadur hynafol efallai... ond yn sicr dim posteri propaganda Natsiaidd!"
Cafodd Craig Lambert o'r Barri ei synnu wrth glirio atig ei dad wedi ei farwolaeth yn 2019.
Rhwng 1951 ac 1955 roedd Colin Lambert o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn rhan o'r tîm fu'n gwarchod dirprwy Adolf Hitler, Rudolph Hess yng ngharchar Spandau, Berlin.
Roedd wedi ei garcharu am oes am ei droseddau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Daeth Colin Lambert â nifer o gofroddion o'i gyfnod yn Yr Almaen adref, heb sôn dim amdanyn nhw wrth ei deulu.
Wedi ei farwolaeth, daeth ei fab, Craig, o hyd i bosteri propaganda - rhai'n dyddio'n ôl i 1942.
Yn eu mysg, mae posteri'n cyfiawnhau ymgyrch fomio'r Blitz ar Lundain, ac eraill yn canmol gwaith llongau tanfor Yr Almaen yn suddo llongau'r gelyn.
Mae Craig wedi rhoi'r posteri i Amgueddfa Ryfel Y Barri, sydd wedi gweithio gydag Archifdy Morgannwg i ddiogelu'r posteri mewn plastig a threfnu cyfieithu rhethreg y Führer yn barod i'w harddangos.
Yn ôl Craig, roedd ei dad yn dipyn o gymeriad.
"Roedd Dad wastad yn hoffi siarad am ei gyfnod yn y fyddin. Ro'n ni'n ei alw fe'n Uncle Albert ar ôl y cymeriad o Only Fools and Horses.
"Roedd wrth ei fodd yn dweud wrthom ni am ei gyfnod yn gwarchod Rudolph Hess, ond doedd e prin yn crybwyll y pethau ddaeth e 'nôl â nhw."
Fel dirprwy i Hitler gydol yr 1930au, roedd Hess yn rhan ganolog o'r Trydydd Reich - sef y cyfnod pan oedd y Natsïaid mewn grym yn yr Almaen.
Yn 1941 fe laniodd Hess mewn parasiwt yn Yr Alban, gan honni ei fod am ddod â diwedd heddychlon i'r rhyfel.
Cafodd ei garcharu ym Mhrydain tan ddiwedd y brwydro, pan y cafodd ei gludo'n ôl i'r Almaen ar gyfer treialon Nuremberg, yr achosion llys yn erbyn arweinwyr y llywodraeth Natsïaidd.
Cafodd Hess ddedfryd am oes am ei droseddau, a'i roi yng ngharchar Spandau. Dyna lle ddechreuodd y cyswllt rhwng Hess a Colin Lambert.
"Un carcharor oedd gan Dad - Hess - mewn adain gyfan o garchar Spandau," eglura Craig Lambert.
"Roedd yn diflasu, ac am ei fod yn hoff o sgwrs, un noson cafodd ei ddal yn parablu a rhannu sigarét gyda Rudolph Hess."
Gan fod cyfathrebu â'r carcharor wedi ei wahardd, cafodd Colin ei ddedfrydu i bythefnos mewn carchar milwrol.
Digon posib i Colin fod yn trafod cyfnod Hess yng Nghymru gyda'r dyn ei hun. Am fwyafrif ei gyfnod dan glo ym Mhrydain, yng Nghymru'r oedd yn aros.
Treuliodd dair blynedd yn ysbyty Maindiff Court ger Y Fenni, ar ôl hedfan i'r Alban i geisio cael heddwch rhwng yr Almaen a Phrydain.
'Deunyddiau eithriadol'
"Roedd Hess yn meddwl bod Hitler yn edmygydd o'r Ymerodraeth Brydeinig ac felly roedd e'n dychmygu byddai hynny'n arwain at heddwch yn y pendraw. Mi roedd Hitler yn credu ei fod yn frad," eglura'r hanesydd Hefin Mathias.
"Pan gafodd ei ddal ym Mhrydain - yn Yr Alban mewn gwirionedd - fe gafodd ei ddisgrifio fel person ynfyd ac fe gafodd ei anfon wedyn i ysbyty meddyliol ar gyfer milwyr a'r lleoliad oedd Cymru, yn benodol ardal Y Fenni.
"Fe dreuliodd e dair blynedd o 1942 tan ddiwedd y rhyfel yn Y Fenni."
Yn ôl hanesydd yn Amgueddfa Ryfel Y Barri, Rosemary Chaloner, mae'r deunyddiau gan Colin Lambert yn eithriadol.
"Does bron dim byd ar ôl o Spandau. Hess oedd yr unig garcharor yno o 1966 tan iddo farw yn 1987, pan gafodd y safle cyfan ei ddymchwel, ei chwalu'n ddarnau mân a'i daflu ym Môr y Gogledd, er mwyn ei atal rhag troi'n allor Natsïaidd.
"Y cyfan ry'n ni'n gwybod sy'n bodoli yw allweddi sy' yn amgueddfa'r Kings Own Scottish Borderers, ac o bosib y posteri yma, os allwn ni fyth brofi eu bod yn dod o'r carchar."
Mae gweithwyr o Archifdy Morgannwg wedi gweithio'n ddygn i adfer y posteri a sicrhau na fyddan nhw'n dirywio ymhellach.
Sut ddaeth Colin Lambert o hyd i'r posteri propaganda?
Flwyddyn wedi ei arestio am siarad â Hess, priododd ferch o'r Almaen, Margit, wedi carwriaeth fer.
Roedd ei rhieni hi'n gefnogwyr cudd o'r Natsïaid ac yn cuddio cysegr i Adolf Hitler yn y seler.
Mae Craig Lambert o'r farn mai yma, yn hytrach nag yng ngharchar Spandau,ddaeth ei dad o hyd i'r posteri propaganda.
"Dysgodd Dad bod Margit wedi bod yn anffyddlon iddo ac fe chwalodd yr holl ddeunydd Natsïaidd mewn ffit o dymer.
"Ond am ryw reswm, fe gadwodd dri phoster.
"Roedd mab ganddo fe gyda Margit, fy hanner brawd, felly efallai iddo gadw rhain fel cyfalaf rhag ofn y byddai hi'n ceisio'i atal rhag gweld ei fab?"
Gadawodd Colin y fyddin yn 1970. Priododd fam Craig, Valerie, yn Nhregatwg, Y Barri.
Mae ei lwch wedi'i wasgaru yn Jamaica, lle bu'n helpu dod â threfn i garchar Kingston wedi i gorwynt chwythu welydd y carchar i'r llawr ac i garcharorion ddianc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2016