'Dwi wedi bod yn lwcus iawn': Profiadau'r Ail Ryfel Byd
- Cyhoeddwyd
Wrth i seremonïau gael eu cynnal i nodi 75 mlynedd ers diwedd y brwydro yn Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd mae Cymru Fyw wedi bod yn cael hanes cyn-filwr o Lanuwchllyn.
Bellach mae Arthur Jones yn 98 oed, ond 19 oedd o pan ymunodd â'r Gwarchodlu Cymreig.
Bu'n gyrru ac yn trwsio tanciau yn ystod y rhyfel, ac fe aeth drosodd i wasanaethu yn Ffrainc yn yr wythnos yn dilyn D-Day.
"Roeddech chi'n gwybod bod y profiad yn mynd i ddod ers blynyddoedd, a dweud y gwir, roedd rhywun yn eitha' pryderus," meddai Mr Jones.
"Roedd yr Almaenwyr yn well milwyr na ni… roedd ganddyn nhw well gynnau na ni… roedd ganddyn nhw well tanciau na ni.
"Yr unig beth oedd gennym ni oedd mwy o danciau."
A beth am y profiad o fod mewn tanc?
"Y cwbl sydd gennych chi i weld ydy dau beriscope - 'da chi ddim yn gweld be sy'n digwydd o'ch cwmpas chi," meddai.
"Y cwbl oeddech chi'n clywed oedd clec machine guns yn hitio'r tanciau - tebyg iawn i genllysg trwm ar do sinc, ond roeddech chi'n gallu talu nôl.
"Roeddech chi'n gwybod pa ochr oedd y bwledi'n hitio ac wedyn roedd y gunner yn troi y gwn ac yn tanio."
Digon hawdd oedd i bethau droi o chwith i'r milwyr yn y tanciau, fodd bynnag, yn enwedig gyda rhai Sherman yr Americanwyr.
"Roedd yr Almaenwyr yn eu galw nhw'n 'Tommy cookers', achos cyn gynted ag y caen nhw eu hitio gan rywbeth, o'n nhw'n mynd ar dân," meddai.
Colli cyfeillion
Un o'i gyd-filwyr a gollodd ei fywyd oedd John Glynmor Jeffreys - Cymro o Lanelli.
"Roedd o'n cysgu yn y gwely wrth fy ymyl i ac roedden ni'n siarad Cymraeg," meddai.
"Roedd o'n chwaraewr rygbi gwych. Mi fysa fo wedi chwarae dros Gymru, yn siŵr i chi.
"Ond mi oedd ganddo fo uffar o dymer. Tasa rhywun yn 'neud rhywbeth iddo fo ar y cae, 'sa nhw'n cael clec!"
'Lwcus iawn'
Fe gafodd Mr Jones ei anafu yn y brwydro, ac wrth edrych yn ôl mae'n teimlo'n ffodus ei fod wedi byw trwy'r rhyfel.
"Roedd 'na 30 yn y sgwad, a cafodd dros eu hanner nhw eu lladd," meddai.
"Dwi wedi bod yn lwcus iawn ar hyd fy mywyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020