Torf gartref i Gerwyn Price a Jonny Clayton
- Cyhoeddwyd
Gydag Uwch Gynghrair Dartiau y PDC yn cychwyn yng Nghaerdydd heno (3 Chwefror), dyma gyfle i gael rhagolwg ar sut dymor fydd yn disgwyl y Cymry sydd yn cymryd rhan.
Bydd rhai o chwaraewyr dartiau gorau'r byd yn cystadlu yn noson agoriadol Uwch Gynghrair Dartiau y PDC yn Nghaerdydd nos Iau 3 Chwefror. Yn eu plith fydd dau Gymro - Gerwyn Price a Jonny Clayton.
Gerwyn Price yw rhif un y byd fel mae'n sefyll a Jonny Clayton yw pencampwr presennol yr Uwch Gynghrair. Felly mae'n argoeli i fod yn noson swnllyd iawn yn y Motorpoint yng Nghaerdydd wrth i'r dorf ddychwelyd am y tro cyntaf ers pandemig Covid-19.
Beth yw Uwch Gynghrair Dartiau y PDC?
Bydd yr Uwch Gynghrair yn digwydd dros 16 noson mewn lleoliadau ar draws Prydain ac Ewrop dros y misoedd nesaf. Bydd enillydd pob noson yn cael gwobr o £10,000.
Wyth chwaraewr sydd yn rhan o'r Uwch Gynghrair eleni: Gerwyn Price (Cymru), Peter Wright (Yr Alban), Michael Van Gerwen (Yr Iseldiroedd), James Wade (Lloegr), Michael Smith (Lloegr), Gary Anderson (Yr Alban), Jonny Clayton (Cymru), a Joe Cullen (Lloegr).
Eleni mae newid yn y fformat, gan wneud pob noson yn gystadleuaeth knockout gydag un enillydd. Golyga hyn y bydd y rhai sydd yn cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn ennill dau bwynt, yr ail safle yn ennill tri phwynt a'r enillydd yn cael pum pwynt fydd yn cael ei gasglu trwy gydol y gynghrair.
Nid y fformat yn unig sydd wedi newid eleni, mae'r byrddau dartiau hefyd yn rhai newydd. Winmau, cwmni o Benybont sydd yn cyflewni'r byrddau trwy gydol y gynghrair.
Dau fydd yn sicr yn edrych ymlaen at gael cefnogaeth y dorf fydd y Cymry, Gerwyn Price a Jonny Clayton.
'Moyn gwneud fy hunan yn browd'
Bydd Jonny Clayton yn ymddangos o flaen y dorf fel y pencampwr presennol. Meddai wrth Sian Price, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru: "Fi moyn gwneud fy hunan yn browd iawn, a fi moyn gwneud torf Cymru yn browd. Ma'n mynd i fod yn rhywbeth sbesial.
"Fi 'di dangos bo fi'n gallu 'neud e wrth ennill y pedwar teitl blwyddyn dwetha. I fod yn onest, rwy'n edrych mlaen, teithio Ewrop, profi'r gwahanol fath o dorf, edrych mlaen yn fawr iawn."
Fe fethodd Gerwyn Price yr Uwch Gynghrair llynedd oherwydd Covid felly mae'n falch iawn o allu bod yn ôl yn ei chanol hi eleni. Meddai wrth Sian Price: "Mae Caerdydd bob amser yn wych, ac mae hi jest yn braf cael bod yn ôl yn yr Uwch Gynghrair, a dwi'n edrych ymlaen at bob wythnos ond yn enwedig Caerdydd."
Mae cyn-bencampwr byd y BDO, Mark Webster yn edrych ymlaen i'r dorf groesawu Gerwyn Price, rhywbeth nad ydyn nhw bob amser yn barod i wneud.
Roedd Mark, sydd bellach yn sylwebydd dartiau hefyd yn barod iawn i ddweud: "Mae o dal yn rhif un y byd, felly mae'n rhaid nad yw'r dorf yn ei effeithio gymaint a hynny."
Mae'n falch iawn fod noson gyntaf y gynghrair yn digwydd yng Nghaerdydd "yn enwedig i Jonny, gan mai llynedd oedd ei flwyddyn gyntaf fel aelod llawn o'r Uwch Gynghrair chafodd o ddim cystadlu o flaen torf o gwbl. Dwi wrth fy modd efo Caerdydd fel lleoliad i'r Uwch Gynghrair gan ei fod ychydig yn llai felly mae'r awyrgylch yn grêt yno."
"Fformat newydd a byrddau newydd, felly mae'n argoeli i fod yn dymor cyffrous. Dwi'n credu bydd y fformat newydd yn gweithio'n dda gan y bydd 'na wastad rhywbeth i chwarae amdano ym mhob un o nosweithiau'r gynghrair."
Credai Mark fod gan y ddau Gymro siawns dda iawn o wneud argraff yn yr Uwch Gynghrair eleni. Meddai: "Fedra i ddim gweld unrhyw un heblaw Gerwyn neu Jonny yn mynd â hi mewn gwirionedd."