Gerwyn Price yn Bencampwr Dartiau PDC y Byd

  • Cyhoeddwyd
GPFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Gerwyn Price wedi ei goroni'n bencampwr dartiau'r byd yn rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd PDC, a hawlio gwobr o £500,000 am ei lwyddiant.

Trydydd ymysg y detholion yn fyd-eang oedd Price ar ddechrau'r ornest yn Llundain nos Sul, ac roedd ei wrthwynebydd mwy profiadol o'r Alban, Gary Anderson, gyda mantais o ddau deitl byd yn barod.

A tra bod y Cymry eraill - Leighton Rees, Richie Burnett, Mark Webster a Wayne Warren - oll wedi cipio coron BDO dartiau'r byd yn y gorffennol, Gerwyn Price oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth y PDC.

Roedd hi'n fuddugoliaeth haeddiannol o 7-3 yn erbyn Anderson yn y pen draw, gyda'r Cymro ar adegau'n chwarae'n anhygoel. Yn y chweched set, roedd ei gyfartaledd pwyntiau yn 136.64 - sef y cyfartaledd uchaf erioed am set yn hanes pencampwriaeth dartiau'r byd.

Ac er i'r Cymro simsanu ychydig am gyfnod ar ddiwedd yr ornest, gan fethu naw tafliad i sicrhau buddugoliaeth, fe ddaeth yr awr ac fe lwyddodd i hawlio coron pencampwr y byd, ar ddiwedd perfformiad rhagorol.

Mae gan Gymru bencampwr byd newydd i'w ddathlu felly, ac fe fydd yn sicrhau ei le ymysg anfarwolion y gamp yn dilyn y fath berfformiad.

Pynciau cysylltiedig