Veni, vidi, vici

  • Cyhoeddwyd

Prin yw'r disgrifiadau o oresgyniad y Rhufeiniaid ar ynys Prydain ond mae un frawddeg o eiddo Tacitus yn sefyll mas.

Cyhuddodd yr hanesydd ei dad yng nghyfraith, Gnaeus Julius Agricola, oedd yn arwain y lluoedd Rhufeinig o "greu anialwch a'i alw'n heddwch".

Mae'n werth cofio'r frawddeg honno wrth wrando ar Vladimir Putin yn brolio mai cadw'r heddwch yw ei fwriad yn Wcráin.

Mae 'na bobol llawer mwy cymwys na fi i drafod cymhellion lluoedd Rwsia yn Wcráin ac i ddarogan beth allasai ddigwydd yn y dyddiau a'r blynyddoedd nesaf.

Ond yr hyn sy'n drawiadol i mi yw pa mor hen ffasiwn, cyntefig hyd yn oed, yw'r hyn sy'n digwydd.

Ers blynyddoedd, mae gwleidyddion wedi darogan mae brwydrau seibr a data fyddai rhyfeloedd y dyfodol a bod angen paratoi ar gyfer yr hyn alwyd yn rhyfel hybrid.

Dyma oedd gan Boris Johnson i ddweud mewn tystiolaeth i bwyllgor dethol ym mis Tachwedd y llynedd.

"It's now or never for the UK armed forces. We have to recognise that the old concepts of fighting big tank battles on the European land mass... are over and there are other better things that we should be investing in."

Nawr i fod yn deg i Mr Johnson roedd 'na ddigon o bobol eraill yn dweud pethau digon tebyg ond dyw polisi amddiffyn llywodraeth Prydain ddim wedi dyddio'n dda.

Dynion â gynnau, tanciau a thaflegrau yn gweithredu ar dir mawr Ewrop sy'n chwalu'r heddwch heddiw.

Oedd cwtogi ar faint byddin Prydain er mwyn rhoi ffocws ar ddiogelwch yn Asia a'r Môr Tawel yn syniad da felly?

Does ond angen gofyn y cwestiwn i synhwyro'r ateb.

Ond ydym lle'r ydym gyda dyddiau o waed a galar o'n blaenau a, fel ym mhob rhyfel y tlotaf a'r mwyaf gwan fydd yn talu'r pris.

Pynciau cysylltiedig