Adran Dau: Forest Green Rovers 2-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CPD CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhediad diweddar Casnewydd o fuddugoliaethau yn y gynghrair ar ben wedi iddyn nhw golli oddi cartref yn erbyn y tîm sydd ymhell ar y brig.

Sgoriodd Matty Stevens i sicrhau'r triphwynt brynhawn Sadwrn i Forest Green Rovers gan ymestyn y bwlch rhyngddyn nhw a Tranmere Rovers i 10 pwynt.

Roedd Casnewydd yn nhrydydd safle Adran Dau gyda 47 o bwyntiau cyn y gêm ond maen nhw bellach wedi llithro i'r pumed safle, o dan Sutton United a Northampton Town.

Cafodd y goliau eu hildio wedi 33 a 61 o funudau.