Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Blackburn
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi sicrhau triphwynt gwerthfawr yn y Bencampwriaeth ar ôl curo Blackburn, er iddyn nhw dreulio rhan helaeth o'r gêm un chwaraewr yn brin.
Cafodd Ryan Manning, oedd eisoes wedi gweld cerdyn melyn yn yr hanner cyntaf, ei hel o'r maes wedi 53 o funudau yn dilyn cic uchel i gyfeiriad Darragh Lenihan.
Roedd yr Elyrch, er dechrau sigledig, eisoes gôl ar y blaen, diolch i beniad Michael Obafemi wedi 16 munud o chwarae, yn ymosodiad cyntaf y tîm i bob pwrpas.
Blackburn wnaeth rheoli'r meddiant weddill y gêm ond fe lwyddodd Abertawe i wrthsefyll y pwysau a sicrhau ail fuddugoliaeth y tîm yn unig mewn naw gêm gynghrair.
Mae tîm Russell Martin, gyda 35 o bwyntiau, yn codi o'r 19eg i'r 16eg safle. Mae Blackburn yn parhau'n ail ond gan golli'r cyfle i gau'r bwlch gyda Fulham ar y brig.