Caniatáu cais am ysgol gynradd Gymraeg newydd Penfro

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y Cynghorydd Cris Tomos, sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg ar gabinet Cyngor Sir Penfro, fu'n trafod y syniad ar Dros Frecwast

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro wedi caniatáu cais i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn nhref Penfro.

Y bwriad yw datblygu llecyn o dir 3.3 hectar o faint wrth ymyl Ysgol Harri Tudur, ger fferm Glanymôr, ar gyfer yr ysgol newydd.

Yn ystod y cyfarfod ddydd Mawrth fe gadarnhawyd mai enw'r ysgol newydd fydd Ysgol Bro Penfro.

Fe fyddai lle i 210 o blant rhwng 5 ac 11 oed yn yr ysgol, ynghyd â lle i 30 yn y meithrin a chylch meithrin ar gyfer plant dan dair oed.

Disgrifiad o’r llun,

Safle Ysgol Bro Penfro ger fferm Glanymôr yn nhref Penfro

Ar hyn o bryd, mae yna ffrwd Gymraeg yn Ysgol Gelli Aur yn y dref, ond mae yna alwadau wedi bod ers tro am ysgol benodedig Gymraeg.

Mae bwriad i greu cae rygbi a phêl-droed ynghyd â man chwarae aml-ddefnydd.

Pryderon traffig

Cyn y cyfarfod ddydd Mawrth roedd swyddogion cynllunio wedi argymell rhoi sêl bendith i'r cais.

Fe gytunodd aelodau o'r pwyllgor i dderbyn yr argymhelliad er pryderon gan rai am fynediad i'r safle a phroblemau traffig oherwydd ei agosatrwydd at Ysgol Harri Tudur.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Hall ei fod yn bryderus oherwydd fod rhieni sy'n gollwng eu plant "yn aml yn parcio yn unrhyw le".

Aeth y Cadeirydd, Jacob Williams, ymlaen i ddweud: "Byddai rhai rhieni'n parcio yn neuadd yr ysgol os gallent."

Ond tra'n cytuno fod trafferthion dywedodd swyddog cynllunio'r cyngor, David Popplewell, y byddai cynllun rheoli mewn lle.

Awgrymodd un cynghorydd y gallai goleuadau traffig newydd fod o gymorth, tra mai dadl y Cynghorydd John Preston oedd na ddylai'r cyngor fod yn "chwilio o gwmpas am lefydd ar gyfer ceir".

"Mae llawer o ddisgyblion o fewn pellter cerdded," ychwanegodd.

"Gallai rhai sy'n cael eu gyrru yno barcio hanner milltir i ffwrdd a cherdded i mewn. Ni ddylem bob amser gefnogi cludiant car."

Fe gefnogwyd y cais yn unfrydol heblaw am un cynghorydd a ddewisodd atal ei bleidlais oherwydd ansicrwydd os oedd ei gysylltiad ag ysgol arall yn golygu fod ei fuddiannau'n gwrthdaro.