Gwersi am ddim i helpu cyrraedd targed miliwn o siaradwyr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Genedlaethol: 'Mae yna groeso mawr i'r cyhoeddiad'

Bydd gwersi Cymraeg ar gael am ddim i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed o fis Medi ymlaen.

Mae'n rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer siaradwyr yr iaith a chyrraedd targed o filiwn erbyn 2050.

Dywed y llywodraeth y bydd yna wersi am ddim hefyd ar gael i athrawon ac eraill ym maes addysg.

Yn ôl llefarydd bydd "pob athro, pennaeth a chynorthwyydd addysgu hefyd yn gallu cael gwersi Cymraeg am ddim, fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i gryfhau addysgu'r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd a chynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu addysgu yn Gymraeg".

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad a'i fod yn gam positif ond bod angen mynd ymhellach gan wneud gwersi o'r fath am ddim i bawb.

Bydd y gwersi ar gael i'r rhai sy'n cofrestru gyda'r Ganolfan Dysgu Genedlaethol.

Ar hyn o bryd dywed y ganolfan fod "mwyafrif o'r cyrsiau dysgu Cymraeg cymunedol yn costio £45-£90, gyda rhai cyrsiau ar gyfer grwpiau penodol yn cael eu cynnig yn rhad ac am ddim".

"O fis Medi 2022 ymlaen bydd modd i ddysgwyr 18-25 oed a'r gweithlu addysg fanteisio ar yr ystod o gyrsiau yn rhad ac am ddim."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nod Llywodraeth Cymru yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Yn Chwefror 2020 fe wnaeth tua 2,800 o athrawon ac arweinwyr gofrestru ar gyfer cwrs blasu'r ganolfan.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y ganolfan: "Ry'n ni'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad diweddaraf yma, sy'n ymestyn gwaith y ganolfan, ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda'r llywodraeth a'n partneriaid i greu cyfleoedd newydd i oedolion ifanc a'r gweithlu addysg i ddysgu a mwynhau'r iaith."

Daw'r cyhoeddiad yn sgil ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru yn ei chytundeb cydweithio â Phlaid Cymru i ddarparu gwersi Cymraeg am ddim i bawb rhwng 16 a 25., dolen allanol

Disgrifiad,

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: 'Y Gymraeg yn perthyn i bawb'

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Nid pawb sy'n cael cyfle i ddysgu Cymraeg yn blentyn ifanc ac mae llawer ohonom yn penderfynu ar ôl i ni adael yr ysgol yr hoffem siarad Cymraeg yn amlach.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Dyma gam arall tuag at roi cyfle i bawb siarad Cymraeg a'n helpu i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Ychwanegodd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Drwy gynnig gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim i bob person rhwng 16 a 25 oed, rydyn ni'n dileu rhwystr arall rhag cael mynediad at yr iaith, a'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.

"Mae darparu mynediad rhwydd at wersi yn rhad ac am ddim yn gyfraniad bach ond hanfodol yn ein hymdrechion i ehangu dinasyddiaeth Gymraeg i bawb."

'Angen mynd ymhellach'

Dywedodd Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith ei fod yn croesawu'r symudiad "y bydd yr holl weithlu addysg yn gallu dysgu Cymraeg am ddim".

"Ond mae angen mynd ymhellach a symud ynghynt, yn cynnwys ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon hyd at flwyddyn i sicrhau bod pob darpar athro yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, buddsoddiad sylweddol mewn hyfforddiant y gweithlu dros y blynyddoedd nesaf a thargedau statudol yn y Ddeddf Addysg Gymraeg newydd o ran recriwtio a hyfforddi'r gweithlu sydd ei angen.

"Rydyn ni'n gwybod bod nifer fawr o bobl eisiau dysgu Cymraeg, ond yn profi rhwystrau wrth geisio gwneud hynny - boed y rheiny'n rhwystrau ariannol, daearyddol neu ddyletswyddau gofal.

"Dyna pam rydyn ni wedi galw am wersi Cymraeg am ddim i bawb."