Dyn, 19, a gododd arian i fachgen â chanser, wedi marw
- Cyhoeddwyd

Cafodd Rhys Langford wybod fod ganddo ganser lai na 18 mis yn ôl
Mae dyn 19 oed a helpodd i godi mwy na £60,000 ar gyfer bachgen bach â chanser ar ôl darganfod bod ei gyflwr ei hun yn angheuol wedi marw.
Cafodd Rhys Langford, o Lyn Ebwy ym Mlaenau Gwent, ddiagnosis o osteosarcoma ym mis Hydref 2020.
Mewn neges ar Facebook, dywedodd ei fam iddo farw yn heddychlon yn ei gartref nos Fawrth gyda'i deulu o'i gwmpas.
Rhoddodd £1,000 a chododd mwy na £60,000 i Jacob, bachgen chwech oed sydd hefyd yn byw yng Nglyn Ebwy.
'Arwr'
Ysgrifennodd mam Rhys, Catherine Langford: "Mae fy rhyfelwr, fy arwr, fy mab, fy mabi, wedi rhoi'r gorau i'w frwydr.
"Fe rhoddodd ei gleddyf i lawr a bu farw'n dawel gartref gyda'i deulu i gyd o'i gwmpas.
"Mae ein calonnau'n torri. Fydd fy mywyd i byth yr un peth eto."

Rhys a'i deulu, a oedd gydag ef "hyd at y diwedd"
Pan ddarllenodd Rhys am Jacob, dywedodd wrth ei rieni: "Os nad oes modd gwneud dim i fy helpu i, rwyf am geisio helpu i achub y bachgen bach yma."
Cafodd Jacob ddiagnosis o niwroblastoma yn 2017 ac, ar ôl triniaeth, canfuwyd ei fod yn rhydd o ganser yn 2019.
Ond cafodd ei rieni wybod ym mis Rhagfyr ei bod yn "debygol iawn" mai canser oedd tiwmor newydd ar ei iau.

Dywedwyd fod Jacob (uchod) wedi colli ei "arwr" yn sgil marwolaeth Rhys
Bydd yr arian a gododd Rhys yn mynd tuag at driniaeth yn y dyfodol i Jacob, a allai orfod teithio i America i gael triniaeth arbrofol nad yw ar gael ar y GIG.
Mewn neges ar dudalen Facebook Jacob's Fight, dolen allanol, dywedwyd fod "arwr Jacob" wedi marw, a bod eu meddyliau gyda theulu Rhys "ar yr adeg drist yma".
"[R]ydyn ni i gyd mor falch a diolchgar am yr hyn wnes di dros ein Jacob ni," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021