Canser: Gall diagnosis cynnar 'achub bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Dai CharlesFfynhonnell y llun, Dai Charles Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dai Charles Evans o Lanbed ei fod yn gwella wedi iddo gael diagnosis cynnar

Yn 61 cafodd Dai Charles Evans o Lanbedr Pont Steffan, ddiagnosis o ganser y prostad bron i flwyddyn yn ôl.

"O'dd e'n dipyn o sioc," meddai ond fe ychwanegodd: "Fe wedon nhw wrtha'i bod e 'di cael ei ddal yn gynnar."

Yn sgil cael diagnosis cynnar, dywed Mr Evans ei bod hi'n edrych yn debygol fod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus a'i fod yn gwella.

Dywed Llio Davies, a gollodd ei gŵr Andrew chwe blynedd yn ôl, ei fod ef wedi cael diagnosis yn rhy hwyr - roedd yn 52 oed.

Ffynhonnell y llun, Alun Lenny
Disgrifiad o’r llun,

Roedd canser Andrew Davies wedi lledu erbyn iddo gael sgan

Mae hi mor bwysig cael diagnosis cynnar - yn enwedig ar gyfer y mathau mwyaf difrifol o ganser, medd grŵp o elusennau.

Mae chwe math o ganser yn gyfrifol am dros 40% o holl farwolaethau canser Cymru bob blwyddyn.

Ond nid oes digon o raglenni sgrinio ar eu cyfer, yn ôl tasglu sy'n canolbwyntio ar y mathau o ganser sy'n anodd eu goroesi.

Mae angen gwella cyfleusterau i sicrhau diagnosis cynnar, medd y tasglu wrth lansio diwrnod ymwybyddiaeth y mathau o ganser mwyaf creulon.

Y chwe math yw canser yr afu, yr ysgyfaint, yr ymennydd, oesoffagws, pancreas, a'r stumog.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae cynllun yn ei le sy'n ymrwymo i ddod o hyd i ganser yn gynt a chwrdd ag amseroedd aros.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen mwy o arian i sichrau gwell ymchwil, meddai Judi Rhys

"Yr hyn sy'n ein poeni yw'r canlyniadau andros o wael ar gyfer y mathau yma o ganser," meddai Judi Rhys, Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus - elusen sy'n rhan o'r tasglu.

Mae mwy na 4,400 o bobl yn derbyn diagnosis o un o'r rhain yng Nghymru bob blwyddyn.

16% o bobl fydd yn goroesi am bum mlynedd ar ôl derbyn y diagnosis, o'i gymharu a 69% wedi diagnosis o ganser mwy cyffredin.

Mae Tenovus yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian tuag at ymchwil a diagnosis, er mwyn gwella cyfraddau goroesi.

Trwy lansio'r diwrnod ymwybyddiaeth, maen nhw'n gobeithio denu sylw at bwysigrwydd diagnosis cynnar a sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r cyflyrau.

Mae'r mathau o ganser dan sylw yn llawer mwy tebygol o beidio cael eu canfod cyn cyrraedd pwynt argyfwng, medd y tasglu, a bydd llawer o gleifion ond yn derbyn diagnosis ar ôl gorfod mynd i'r ysbyty ar frys neu wedi i'w meddyg teulu eu hailgyfeirio yno gyda symptomau difrifol iawn.

Mae data gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru ar gyfer 2016-18 yn dangos bod 65.5% o achosion o ganser y pancreas wedi'u canfod yng Nghyfnod 4 - sef y cam lle mae'n anodd neu'n amhosib rhoi triniaeth.

Roedd y ganran ar gyfer canser y fron lawer yn is sef 6.3% ac ar gyfer canser y prostad roedd y ganran yn 19.6%.

Yn yr un cyfnod doedd 60.3% o achosion canser yr afu ddim wedi'u canfod tan Gyfnod 4 - na chwaith 49.3% o ganser yr ysgyfaint, 41.9% o ganser yr oesoffagws, 49.4% o ganser y stumog a 54.8% o ganser y pen a'r gwddf, sy'n cynnwys yr ymennydd.

'O'dd y sgan yn rhy hwyr'

Ffynhonnell y llun, Llio Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Andrew Davies yn "meddwl y byd" o'r gwasanaeth iechyd a'r gofal a dderbyniodd, medd ei wraig Llio

Un sydd yn credu'n gryf mewn pwysigrwydd diagnosis cynnar yw Llio Davies o Rydaman.

Bu farw gŵr Ms Davies, Andrew, o ganser y coluddyn chwe blynedd yn ôl yn 52 oed.

"O'dd fy ngŵr i 'di bod yn dweud ers tua dwy flynedd ei fod e ddim yn teimlo'n iawn, bod o'n teimlo'n wan," meddai Ms Davies.

"O'dd o'n gorfod aros cymaint o amser i'r doctoriaid 'neud y penderfyniad ei fod o'n gallu cael sgan."

Ffynhonnell y llun, Llio Davies
Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd gan Andrew Davies "symptomau traddodiadol"

"Pan gafodd o sgan o'dd o'n rhy hwyr. O'dd y canser wedi lledu."

Fe ddylai fod "mwy o bŵer" gan y claf i wneud apwyntiad am brawf os ydyn nhw'n dymuno, meddai.

"Os byddai 'di cael yr hawl, byddai 'di mynd yn syth.

"O'dd o'n gwybod ym mêr ei esgyrn bod rhywbeth ddim yn iawn… ond oherwydd o'dd o ddim yn dangos y symptomau hollol amlwg o'dd o ddim yn cael mynd am sgan."

Ffynhonnell y llun, Llio Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai Mr Davies wedi dewis cael sgan lawer ynghynt na phan gafodd ei gyfeirio am un gan feddyg, dywed ei wraig

Dywedodd Ms Davies y gallai sgrinio rheolaidd ar gyfer "pob math o ganser," fel sydd ar gael ar gyfer mathau eraill o ganser "achub bywydau".

"Dwi'n cofio o'dd o fel chwyldro pan 'naeth merched ddechrau cael bron brawf.

"Dwi'n nabod gymaint o ferched sydd wedi cael eu bywydau wedi'u hachub," ychwanegodd, yn sgil profion y fron a'r groth.

"Mae'n grêt bod nhw'n neud y ddau yna, ond sa'm pwynt neud y ddau yna a nid y lleill i gyd."

'Siawns o ledaenu heb driniaeth cynnar'

Ffynhonnell y llun, Dai Charles Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Evans yn seiclo hyd at gan milltir yr wythnos cyn ei ddiagnosis

Llwyddodd Dai Charles Evans o Lanbed i gael ei ddiagnosis cynnar trwy fynd ar hap am brawf PSA, sydd yn gallu darganfod arwyddion cynnar o ganser y prostad, er nad oedd symptomau ganddo.

"Oni bai mod i wedi mynd am y prawf PSA bydden i ddim wedi 'neud dim byd amdano fe, ac erbyn bo' fi 'di gweld symptomau falle bydde'r canser wedi gwasgaru i rywle arall," meddai.

Ychwanegodd Mr Evans pa mor bwysig yw gofyn am gymorth meddyg, yn enwedig i ddynion, er mwyn dal y canser mewn pryd.

Ffynhonnell y llun, Dai Charles
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dai Charles Evans yn codi arian ar gyfer Ysbyty Felindre, lle cafodd ei driniaeth

Dywedodd: "Y dystiolaeth yw bod dynion yn llai tebygol o fynd i ofyn am gyngor y meddyg nes yn hwyrach."

Yn ôl prif weithredwr Tenovus, mae'r pandemig hefyd wedi lleihau y nifer o bobl sydd yn mynd at eu meddyg am gyngor, am nad ydyn nhw eisiau achosi trafferth i'r GIG.

Mae Judi Rhys yn erfyn ar bobl i ofyn am gymorth hyd yn oed os yw'r symptomau yn ysgafn.

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer yn llai o bobl wedi mynd am brofion nag o'r blaen.

"Gall symptomau ar gyfer y mathau hyn o ganser fod yn aneglur iawn ac yn aml mae pobl yn meddwl mai rhywbeth arall sy'n eu tryblu," meddai.

Ar gyfer y mathau mwyaf creulon o ganser dywed y tasglu fod y symptomau'n gallu cynnwys colli pwysau heb reswm, trafferthion llyncu, peswch parhaus, blinder, pen tost, teimlo'n sâl, camdreuliad, a phoen yn yr abdomen.

'Cynlluniau i ddod o hyd i ganser yn gynt'

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi gosod cynllun cynhwysfawr i wella canlyniadau canser, gan gynnwys ymrwymiadau pwysig i ddod o hyd i ganser yn gynt, adfer o effaith y pandemig a chwrdd ag amseroedd amser llwybrau canser.

"Bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau canser mewn ymateb i'r ymrwymiadau hyn."

Pynciau cysylltiedig