Y Bencampwriaeth: Caerdydd 4-0 Peterborough United

  • Cyhoeddwyd
Dathlodd Joe Ralls ei gôl trwy ddal crys fel teyrnged i'r capten Sean Morrison (top chwith) sydd wedi'i anafuFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dathlodd Joe Ralls ei gôl trwy ddal crys fel teyrnged i'r capten Sean Morrison (top chwith) sydd wedi'i anafu

Cafodd Caerdydd hwb sylweddol yn y frwydr i aros yn y Bencampwriaeth wrth sicrhau buddugoliaeth gyfforddus gartref i Peterborough United.

Fe lwyddodd y tîm cartref i rwydo ddwywaith yn yr hanner cyntaf gyda goliau i Joe Ralls ac Aden Flint.

Gwnaeth foli Jordan Hugill hi'n dair, wedi rhediad a chroesiad ysblennydd gan Cody Drameh, cyn i Uche Ikpeazu ddod ymlaen i sgorio pedwaredd yr Adar Gleision.

Mae'r fuddugoliaeth yn mynd â Chaerdydd 12 pwynt yn glir o Peterborough a'r tri isaf.