Ateb y Galw: Y cerddor Marged Rhys

  • Cyhoeddwyd
Marged RhysFfynhonnell y llun, Marged Rhys

Y cerddor Marged Rhys sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Elan Rhys yr wythnos diwethaf.

Mae Marged yn dod o ardal Gaernarfon ac yn un o driawd gwerin-pop Plu gyda'i brawd Gwilym a'i chwaer Elan. Mae Plu yn recordio eu pedwerydd albym ar hyn o bryd. Bydd Marged yn dechrau cwrs ymarfer dysgu fis Medi.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Chwarae wrth fonyn hen goeden yn yr ardd oedd efo twll mawr yn mynd lawr i'w gwreiddiau. O'n i'n bwyta cyrainj allan o gwpan wy pren oedd efo'n enw wedi ei losgi arno. Wnes i ollwng y cwpan wy lawr y twll dwfn mewn camgymeriad a byth ei weld eto!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mam oedd y ffotograffydd pan oedden ni ar wyliau teulu wrth i ni dyfu fyny. Mae 'na lwyth o lunia ohonom efo Dad, ond dim llawer efo Mam. Felly, dyma un o'r rhai prin yna ar ddiwedd gwyliau yn Menorca cyn i'r taxi ddychwelyd ni i'r maes awyr.

Ffynhonnell y llun, Marged Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Marged a'r teulu: Llun prin o ddiwedd gwyliau

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae 'na ddau le yn neidio i'r meddwl...

Pont Pen-llyn ger Brynrefail. O'n i'n seiclo draw yn aml pan yn ifanc, yna'n eistedd ar garreg dan y bont i ymlacio. Erbyn heddiw, fyddai'n mynd yno i nofio yn Llyn Padarn ar ddiwrnod braf.

Aberdaron ydy'r ail le. Mae fy rhieni yn mynd a'r garafan yno am wythnos pob haf ers oedden ni'n fach. Waeth be' ydy'r tywydd, dwi'n trio mynd lawr yno o leiaf unwaith pob blwyddyn. Mae bod wrth y môr yn fy ymlacio, a bod heb signal ar y traeth yn golygu mod i'n rhoi switch off ar brysurdeb bywyd am ychydig.

Ffynhonnell y llun, Marged Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Ymlacio ar draeth Aberdaron ar ddiwrnod braf

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Llwyth o nosweithiau gwych - gigs, Steddfod, nosweithiau gwyllt ym Mryste fel myfyriwr, Green Man - a phob un yn arbennig am resymau gwahanol.

Mae Gŵyl Arall yng Nghaernarfon yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn arferol i mi. Un noson wych sy'n neidio i'r cof: Candelas a'r Reu yn y castell fel rhan o'r ŵyl yn 2018, yna ymlaen i barti mewn tŷ ffrind yn canu a dawnsio i ABBA tan oria' mân y bora. Doedd gwirfoddoli yn y gwres diwrnod wedyn ddim yn hwyl!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Blêr, annibynnol, cystadleuol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Wnes i droi'n 30 fis Tachwedd, ac er i mi fethu cael parti mawr fel wnes i gynllunio, ges i wythnos gyfan o ddathlu efo cyfuniad o bedwar person gwahanol pob nos. Oedd fy mocha i'n brifo erbyn diwedd yr wythnos, gymaint o wenu a chwerthin! Er nad oedd o'r parti wnes i ddychmygu, wnes i deimlo gymaint o gariad yr wythnos yna.

Ffynhonnell y llun, Marged Rhys

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio teimlo cywilydd am y pethau lleiaf pan o'n i'n fach... fel darllen allan yn Saesneg i'r dosbarth yn yr ysgol gynradd ac ynganu glove fel clove. A mae nhw'n dweud fod Cymraeg yn anodd?!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wnaethon ni ganu ym mhriodas fy nghyfnither yn ddiweddar fel Plu. Oedd o mor braf gweld ein teulu o'r de am y tro cyntaf ers 18 mis, a hynny i gyd ar yr un pryd mewn dathliad hyfryd. O'n i braidd yn overwhelmed. Mae'n anodd canu pan ti'n crïo!

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pigo crachod.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dwi'n dychwelyd yn aml at audiobook cyfres Harry Potter wedi ei ddarllen gan Stephen Fry. Wnes i gael anaf pen mewn damwain car yn 2014 ac oedd o'n annifyr i ddarllen a gwylio teledu am wythnosau wedyn. Felly dechreuais wrando ar audiobooks. Cyfres Harry Potter oedd y dewis perffaith tra o'n i'n gwella - llais addfwyn Stephen Fry, storïau cyfarwydd o'n i 'di darllen ganwaith a nostalgia pur o fy arddegau.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Dim byd yn curo peint efo'n ffrindiau yn Blac ar nos Iau.

Ond ella fyswn i'n hoffi mynd am ddiod efo Tadcu a Taid. Wnaeth y ddau farw tra o'n i'n fy arddegau felly byddai cael sgwrs gall efo'r ddau yn braf a finnau fel oedolyn.

Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?

Gigio, efo Plu, ond yn fyw gyda Carwyn Ellis & Rio18 gan mod i'n caru dawnsio a mwynhau ar y llwyfan i'r miwsig hafaidd Lladin Americanaidd 'na.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Rio18

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fy nghath, Pablo. Cysgu, bwyta, mwytha, crwydro, torheulo - swnio fel diwrnod perffaith!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi ddwy flynedd yn hŷn na fy mrawd bach Gwilym. Unwaith wnaeth rhywun ofyn os oedden ni'n dad a merch!!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Coffi ffresh yn gwely efo'r gath a cherddoriaeth gwych 'mlaen. Wedyn mynd am dro a nofio mewn llyn efo'n ffrindiau. Yna swper hyfryd tu allan efo'n nheulu.

Pwy sy'n Ateb y Galw wythnos nesaf?

Ifan Emlyn Jones.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw