Ateb y Galw: Elan Rhys

  • Cyhoeddwyd
elanFfynhonnell y llun, Elanrhys

Y gantores o'r band Plu, Elan Rhys, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Ffion Emyr yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod mewn ystafell yn yr hen Ysbyty Dewi Sant ym Mangor, ar ôl i fy mrawd gael ei eni. Ro'n i'n chwarae efo doli Cindy cefais gan fy rhieni i 'nghadw i'n ddiddan. Ma' raid o'n i'n 3 blwydd a 10 mis.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

'Swn i byth yn gallu dewis dim ond un! Gigs a gwyliau hollol fythgofiadwy pan o'n i'n fy arddegau, fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol yng Nghaerdydd, pan o'n i'n byw efo saith o ffrindiau, a oedd yn llawn nosweithiau gwych, a'r holl nosweithiau allan pan o'n i'n byw yn Amsterdam ar ôl i fi raddio, unrhyw benwythnos yng ngŵyl Green Man (ond yn enwedig yr un pan o'n i a'n ffrind i Llio yn sili bilis).

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Gwyl y Dyn Gwyrdd, lleoliad penwythnosau cofiadwy i Elan

Ond ar ôl meddwl, ella dyliwn i ddweud y noson pan wnaeth Daf ofyn i fi ei briodi, ar ôl swper bendigedig o dan ganopi o goed yn Menorca, odd hwna'n eitha sbeshal!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Mam i filgi

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dwi'n gwenu pan yn meddwl am y diwrnod pan daeth fy nghi, Gel, i fy mywyd. Gyrrais i'w nôl o ryw fferm ger Southport a stopio i fynd am dro ar draeth Morfa Conwy ar y ffordd adra. Doedd gen i ddim syniad be o'n i'n neud a doedd o heb weld tu hwnt i gawell a trac rasio heb sôn am draeth cyn hynny. Mae o wedi gwneud i mi wenu a chwerthin bob un dydd ers hynny.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dydw i ddim yn mynd yn embarrassed yn hawdd. 'Swn i'n deud fy mod i'n berson passionate ac yn dilyn fy nghalon pan yn gwneud penderfyniadau, a dwi'n credu ei bod hi'n fy arwain i'r cyfeiriad iawn fel arfer. Ond mae 'na rai pethau dwi'n difaru wrth gwrs, colli cysylltiad gyda hen ffrindiau, trin pobl yn wael pan oeddwn yn iau, mae gen i gywilydd o'r pethau yna.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ym mhriodas fy nghyfnither bythefnos yn ôl pan gwelais fy mamgu am y tro cyntaf ers blwyddyn a hanner.

O archif Ateb y Galw:

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

'Dwi'n eitha hoples am gael ffotos allan o gwmpas y tŷ, a'r unig rai sy' gen i ydy rhai o holl fabis fy ffrindiau ar gerdiau diolch. Ond mae gen i hoff luniau o'r teulu mewn albums yn nhŷ fy rhieni.

Un ohonynt ydy hwn o 'mrawd a'n chwaer a finna efo taid mewn ryw Steddfod, yn edrych mor, mor hapus. Fel 'na dwi'n cofio taid.

Ffynhonnell y llun, Elanrhys

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi ngwinedd, pigo ngwallt.. 'sa fy rhieni yn rhestru nhw i gyd i chi.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

'Dwi 'di darllen rhan fwyaf o lyfrau David Sedaris - mae o'n hollol hileriys.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ma'n newid drwy'r amser. Y tawelaf a'r mwyaf anghysbell, y gora, ar hyn o bryd! Ond 'sa'm lot o lefydd gwell na pyllau'r afon Arddu ar ddiwrnod poeth - er bod tourists Llanbêr mor agos, ma nhw'n teimlo mor bell.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Neb gwell na fy nheulu a ffrindiau

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael gwledd o fwyd Eidalaidd efo fy nheulu i gyd yng ngardd fy rhieni, llwyth o win, llwyth o basta a band byw yn chwarae i ni yn y chefndir.

Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?

Mynd ar wylia dramor. Dwi'n caru caru caru mynd ar wylia ac yn cynllunio ryw wyliau neu gilydd yn gyson. Yn ystod y pandemig dwi wedi cynllunio gwyliau o amgylch Yucatan ym Mecsico, wythnos yng Nghyprus, mis mêl yn Tuscany, tair wythnos yn Seland Newydd a trip ar y trên i Lundain. Dim syniad pryd ga i gymryd yr holl wyliau yma, na fforddio nhw chwaith!

Ffynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Harddwch Seland Newydd, rhywbeth y mae Elan yn gobeithio gweld dros ei hun yn fuan

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Er 'mod i newydd ddweud 'mod i ddim yn mynd yn embarrassed yn hawdd, dwi'n hollol hunanymwybodol o fy acen. Does yna ddim llawer o bobl yn gwybod fy mod i'n siarad gyda acen deheuol gyda fy nheulu, wedi gwneud erioed a dyna sy'n dod yn naturiol i fi.

Mae dad o Gwm Tawe a mam o Gorris ac, er cefais i fy magu ym Methel, digwydd bod roedd na lawer o acenion deheuol o gwmpas pan o'n i'n fach, a 'nath hynny i gyd ddylanwadu arna i, yn amlwg! Mae o'n od achos ma' mrawd a'n chwaer yn hollol ogleddol 100% o'r amser. Fi 'di'r un rhyfedd efo dwy acen.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Marged Rhys

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw