Carwyn James: 'Haeddu mwy o gydnabyddiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JamesFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Carwyn James ond dau gap i Gymru

Mae'r actor sy'n arwain drama newydd un dyn am fywyd yr hyfforddwr rygbi Carwyn James yn dweud y dylai fod wedi cael mwy o gydnabyddiaeth am ei gyfraniad aruthrol i'r byd rygbi a thu hwnt.

Simon Nehan sy'n chwarae rhan Carwyn, gyda Gareth John Bale yn cyfarwyddo.

"Fel rhywun sydd yn dod o Lanelli, ac sydd yn chwarae rhan Carwyn, rwy'n meddwl y gallai'r dref a Chymru wneud mwy i gofio amdano," meddai Simon.

"Yn amlwg, mae'n ffigwr enfawr yn y clwb.

"Mae 'na suite wedi ei enwi ar ei ôl e, ond dwi'n meddwl bod mwy i'r dyn.

"Dwi ddim yn gwybod a ydy e'n rhywbeth i wneud gyda'r ffaith na chafodd e'r cyfle i hyfforddi Cymru. Efallai bod hynny wedi cael effaith. Wnaeth e lwyddo gyda'r Llewod, Llanelli a'r Barbariaid.

"Dwi ddim yn credu bod yna gysylltiad digon cryf rhwng Cymru fel gwlad a Charwyn. Dwi'n gobeithio y bydd y ddrama yma yn aildanio atgofion amdano."

Disgrifiad o’r llun,

Simon Nehan sy'n chwarae rhan Carwyn James

Mae'r ddrama wedi ei sgwennu gan Owen Thomas, oedd yn gyfrifol am y ddrama lwyddiannus, Grav. Mae'r ddrama wedi ei gosod yn ystafell y gwesty yn Amsterdam, ble bu farw Carwyn ym mis Ionawr 1983.

Mae nifer o wybodusion y byd rygbi yn dweud taw James oedd yr hyfforddwr gorau i beidio hyfforddi Cymru. Roedd yn ddyn diwylliedig, amryddawn, ond roedd yna elfennau cudd i'w bersonoliaeth a chwestiynau am ei rywioldeb.

Roedd yn ysmygwr trwm ac roedd yn or-ddibynnol ar alcohol tua diwedd ei fywyd.

Colli cyfle

Yn ôl Gareth Bale, mae yna obsesiwn am ddau gwestiwn penodol ynglŷn â Carwyn. "Mae pobl yn gofyn pam doedd e ddim wedi hyfforddi Cymru ac am ei rywioldeb. Mae'r atebion bach yn boring!

"Wnaeth e byth ymgeisio am y swydd, dyna'r gwir. O ran ei rywioldeb, dyw e ddim yn fusnes i unrhyw un!

"Ond, o ran drama, mae rhaid i ni ddelio gyda'r pethe yma.

"O ran rygbi Cymru, wrth gwrs bydde fe wedi bod yn grac siŵr o fod, yn frustrated iawn, fel cenedlaetholwr, bod e ddim wedi cael y cyfle i fod yn hyfforddwr ar ei wlad, a hynny ar ôl maeddu Seland Newydd gyda'r Llewod, gyda'r Barbariaid a Llanelli.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gareth Bale, sy'n cyfarwyddo'r ddrama, mae'r cynhyrchiad yn delio gyda sawl agwedd o fywyd Carwyn James

"O ran ei rywioldeb, daeth Carwyn byth mas, so nid ein lle ni yw i wneud hynny drosto fe. Ond hefyd, dwi'n credu bydde fe'n anghywir petasen ni'n anwybyddu hwnna yn llwyr.

"Ni'n delio gyda fe mewn ffordd sensitif iawn a gobeithio wedi creu drama byddai Carwyn James yn falch ohono."

Mae ei orchestion fel hyfforddwr ar y cae rygbi yn drawiadol.

Fe drechodd tri o'i dimau fawrion Seland Newydd - y Llewod yn 1971, Llanelli yn 1972 a'r Barbariaid yn 1973.

Roedd James o'r farn taw'r hyfforddwr ddylai gadeirio cyfarfodydd dewiswyr y tîm cenedlaethol, ond doedd Undeb Rygbi Cymru ddim yn cytuno ar y pryd, a felly chafodd e fyth gyfle i hyfforddi Cymru.

'Gŵr bonheddig'

Bu Delme Thomas yn gapten iddo ar y Strade, cyn ymuno â thaith y Llewod ym 1971 ac roedd yn gyfaill agos i Carwyn.

"Roedd e'n gwybod sut i siarad gyda chwaraewyr - weles i ddim mo Carwyn yn codi ei lais at neb," meddai.

"Dyna'r short o ddyn oedd e. Gŵr bonheddig. Short o ddyn oedd yn gallu troi ei law i wneud unrhyw beth mewn bywyd.

Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Delme Thomas i Carwyn James dros y Llewod yn ogystal â thîm Llanelli

"Delon ni yn bartners mawr. Roeddwn ni yn agos iawn i Carwyn. Dwi'n gweud o hyd, mae hyfforddwyr yn gwneud nawr beth oedd Carwyn am wneud hanner can mlynedd yn ôl."

Mae Delme Thomas yn parhau yn flin na chafodd ei gyfaill y cyfle i hyfforddi ei famwlad.

"Gwrthodon nhw fe. Wy'n credu mai dyna'r camgymeriad mwyaf wnaeth Cymru erioed, bod nhw ddim wedi cael Carwyn mewn gyda Clive Rowlands.

"Mae'n siom i fi achos ro'n i yn nabod Carwyn mor dda. Hwnna sy'n hala fi yn grac yw na fuasen ni wedi rhoi'r cyfle iddo gael neud beth oedd e eisiau neud."

Wedi ei eni ym mhentref Cefneithin yn 1929, roedd Carwyn James yn chwaraewr ifanc amryddawn. Fe enillodd dau gap i Gymru yn 1958, ond doedd ddim yn medru cystadlu gyda dawn maswr ifanc chwimwth arall, Cliff Morgan.

Wedi ei yrfa fel chwaraewr, fe ddaeth cyfnod hynod o lwyddiannus fel hyfforddwr tîm rygbi Llanelli, ac yna fe gafodd y fraint o hyfforddi'r Llewod yn y gyfres yn erbyn Seland Newydd yn 1971.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Carfan 1971 y Llewod

Carwyn James oedd yn gyfrifol am gynllunio'r fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn y Crysau Duon. Rhoddodd bwyslais ar rygbi creadigol a chyflym, gan feithrin y rhinweddau gorau ymhob chwaraewr ar y daith.

Fe enillodd y Llewod 23 o'r 26 gêm ar y daith, gan faeddu Seland Newydd ar eu tomen eu hunain yn y gyfres brawf.

Ar ôl dychwelyd i Gymru, fe aeth James yn ôl i hyfforddi Llanelli, a bu'n gyfrifol am ysbrydoli'r tîm i fuddugoliaeth enwog yn erbyn Seland Newydd ar 31 Hydref, 1972, gyda'r sgôr terfynol yn 9-3.

Daeth buddugoliaeth arall iddo yn erbyn Seland Newydd fel hyfforddwr y Barbariaid ym 1973.

Ond chafodd Carwyn James fyth y cyfle i hyfforddi Cymru. Ar ôl cyfnod llwyddiannus fel newyddiadurwr a sylwebydd rygbi, fe aeth i'r Eidal i hyfforddi Rovigo gyda chryn lwyddiant.

Ond daeth ei fywyd i ben mewn ystafell gwesty yn Amsterdam. Bu farw o drawiad ar y galon ar 10 Ionawr, 1983 yn 53 oed.

Fydd y ddrama newydd, Carwyn, yn cael ei pherfformio yn Theatr Torch, Aberdaugleddau rhwng 15 a 26 Chwefror, cyn symud i Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin ar 28 Chwefror am un perfformiad.

Bydd wedyn yn teithio Cymru yn ystod mis Mawrth.

Pynciau cysylltiedig