Tlws FA Lloegr: Wrecsam 3-0 Boreham Wood
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n brynhawn gwych ar y Cae Ras wrth i Wrecsam lwyddo i guro Boreham Wood ym mhumed rownd Tlws FA Lloegr.
Llwyddodd peniad Ollie Palmer gan gic Callum McFadzean roi Wrecsam ar y blaen yn ugain munud cyntaf y gêm.
Jordan Davies aeth â'r ail gôl gan ymestyn mantais y tîm cartref yn gyffyrddus.
Os nad oedd hynny'n ddigon, daeth peniad Aaron Hayden ym munudau olaf y gêm er mwyn sicrhau ei chweched gôl y tymor hwn a buddugoliaeth wych i Wrecsam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2022