Y Bencampwriaeth: Millwall 2-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n brynhawn siomedig oddi cartref i Gaerdydd yn dilyn eu buddugoliaeth yn gynharach yr wythnos hon yn erbyn Peterborough.
Am fwyafrif helaeth y gêm, roedd hi'n ddi-sgôr yn stadiwm The Den cyn i Millwall ennill hyder.
Daeth gôl i Murray Wallace wedi 73 o funudau a Bennett yn taro cefn y rhwyd wedi 82 munud i ddod â'r sgôr i 2-0.
Ond llwyddodd Caerdydd i daro'n ôl a Bagan yn mynd amdani eiliadau cyn y chwiban olaf.
Y sgôr terfynol yn 2-1 a Chaerdydd yn parhau yn yr ugeinfed safle ar y tabl.