Wayne David i gamu i lawr fel AS Caerffili
- Cyhoeddwyd
Mae AS Llafur Caerffili, Wayne David, wedi cyhoeddi na fydd yn ymgeisio yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Ef yw cynrychiolydd yr etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin ers cael ei ethol am y tro cyntaf yn 2001.
Mae wedi gwasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru ac roedd yn aelod o fainc flaen y Blaid Lafur am bron i 14 o flynyddoedd.
Ag yntau bellach yn 64 oed, dywedodd bod hi'n "bryd i greu lle at gyfer person ifancach".
Roedd Mr David yn Aelod o Senedd Ewrop am 10 mlynedd tan 1999, gan arwain grŵp y Blaid Lafur ym Mrwsel am gyfnod.
Fe gamodd yn ôl o'r swydd honno er mwyn sefyll ar ran y blaid yn sedd Rhondda yn etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru - enw gwreiddiol Senedd Cymru - yn 1999.
Fe gipiodd Plaid Cymru'r sedd yn annisgwyl, ond roedd Mr David yn rhydd i ganlyniad i sefyll yn hen sedd cyn Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies yn Etholiad Cyffredinol 2001 a'i olynu fel AS Caerffili.
Dywedodd nos Wener y bu'n "fraint i fod yn AS Caerffili am bron i 21 o flynyddoedd", gan "ddiolch aelodau lleol Llafur a phobl etholaeth Caerffili am eu cefnogaeth ardderchog dros yr holl amser".
Ychwanegodd: "Fe fyddaf wrth gwrs yn parhau i weithio'n galed ar ran fy etholaeth tan yr Etholiad Cyffredinol nesaf, pryd bynnag y bydd hwnnw, ac mae fy nheyrngarwch i'r Blaid Lafur mor gryf ag erioed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2016