O 'gael dim byd' yn Afghanistan i 'fyd o gyfleoedd'
- Cyhoeddwyd
Mae Coleg yr Iwerydd yn enwog fel ysgol lle mae plant o deuluoedd brenhinol a chefnog yn dod i astudio o fewn waliau castell tu allan i Landdunwyd.
Ond ers dros flwyddyn bellach mae ffoadur ifanc o Afghanistan wedi ymuno gyda disgyblion yno sy'n dod o bob cwr o'r byd.
Wedi i fygythiadau'r Taliban yrru teulu Abobakar Sediq Miakhel o'r wlad, cafodd y teulu loches yng Ngwlad Belg lle cafodd y disgybl 18 mlwydd oed gyfle i ddal fyny gyda'i addysg cyn dod i Gastell Llanddunwyd ar ysgoloriaeth dwy-flynedd.
Ac mae'n ddiolchgar iawn am y cyfle (mae geiriau Abobakar wedi eu cyfieithu o'r Saesneg): "Pan ddes i yma doedd gen i ddim byd yn fy mywyd ac am y tro cyntaf ro'n i'n gallu gweld y byd yma o gyfleoedd ac ro'n i mor gyffrous.
"Cyn dod i Gymru do'n i ddim yn gwybod beth oedd yn bosibl i fi. Yn Afghanistan roedd y system addysg yn wirioneddol ddrwg. Byddai'r athro weithiau'n dod i'r gwersi, weithiau ddim.
"A 'doedd y cwricwlwm ddim yn un cyfoes. Pan symudais i Wlad Belg newidiodd pethau a dechreuais ddysgu rhywbeth oherwydd fod athrawon gyda ni bob dydd.
"Do'n i ddim yn gwybod beth fyddwn i'n gallu neud â'r wybodaeth oedd gyda fi yng Ngwlad Belg ond pan symudais i Gymru ac i Goleg yr Iwerydd, cwrddais â phobl o bob cwr o'r byd a dechrau gwneud prosiectau.
"Cefais fy ysbrydoli."
Lloches
Bu rhaid i deulu Abobakar ffoi o Jalalabad gan fod ei dad, sy'n fferyllydd, wedi bod yn gweithio i sefydliadau Americanaidd. Ar ôl iddo gael ei fygwth gan y Taliban dechreuodd ei dad gerdded i Ewrop gan setlo ym Mrwsel fel ffoadur. Ymunodd ei deulu ag ef ddwy flynedd yn ddiweddarach ar ôl cyfnod hir heb ei weld.
Dywedodd Abobakar: "Ro'n i'n blentyn (pan gadawodd ei dad) a 'doedd hi ddim yn ddiogel yno i neb. Roedd fy chwaer eisiau mynd i'r ysgol a dod yn feddyg. Gyda'r drefn bresennol does dim hawliau i fenywod, mae mor drist.
"'Oedden ni mor ffodus i allu ffoi i Wlad Belg.
"Ar ôl symud yno ro'n i'n gweithio ar benwythnosau a phob egwyl - yn llythrennol drwy'r amser - i drio dal i fyny ar yr holl flynyddoedd o addysg ro'n i wedi'u methu.
"Achos yn Afghanistan byddwn i'n mynd i'r ysgol ond ddim yn dysgu llawer. Yng Ngwlad Belg roedd cyfle i ddal fyny.
"Dwi'n astudio'n galed yma yng Nghymru ond ddim mor galed ag oeddwn i yng Ngwlad Belg. Dwi'n ffonio fy chwiorydd ar y penwythnos (mae gan Abobakar ddwy chwaer a dau frawd) ac maen nhw'n gweithio drwy'r amser, yn enwedig fy chwaer hŷn - roedd hi eisiau gyrfa mewn meddygaeth.
"Doedd y system yn Afghanistan ddim yn caniatáu iddi astudio meddygaeth ond nawr mae hi'n astudio i fod yn ddeintydd."
Ysgoloriaeth
Enillodd Abobakar le i astudio heb dalu ffioedd yng Ngholeg yr Iwerydd ar ôl cyrraedd y brig yn ei ddosbarth ym Mrwsel.
Dywedodd: "Yn Afghanistan do'n i ddim wir yn gwybod sut oedd y byd yn gweithio. Yma dwi'n dysgu am y byd, am wybodaeth, am addysg, am y problemau sy'n bodoli yn Afghanistan.
"Oherwydd mai plentyn o'n i tra'n byw yn Afghanistan, do'n i ddim yn gwybod fod 'na broblem yno.
"Ond pan ddes i yma gwelais wahaniaeth mawr a sylweddolais fod 'na broblem fawr yno sy' angen ei datrys.
"Mae wir yn gwneud fi'n drist. Roedd fy nghyfnither yn mynd i fod yn feddyg ond o dan y drefn Taliban mae ei phrifysgol wedi cau.
"Mae fy nghyfnither arall yn gweithio fel cyfieithydd ar hyn o bryd - roedd hi eisiau bod yn beiriannydd ond mae popeth wedi mynd.
"Dyw'r merched ddim yn gallu mynd i'r ysgol yno nawr felly maen nhw'n methu dal i fyny, sy'n poeni fi'n fawr. Dwi eisiau gwneud fy rhan nawr i ddarparu cyfleoedd i bobl eraill."
Newid byd yng Nghymru
Mae Abobakar yn mwynhau'r heddwch yn y castell 12fed ganrif ym Mro Morgannwg: "Mae'n le braf iawn, yn dawel a'n heddychlon. Ti'n clywed ambell i hofrenydd yn pasio ond fel arall mae'n dawel iawn.
Penwythnosau
"Dwi'n treulio amser gyda ffrindiau a'n gwneud gwaith ysgol. Ar ddydd Sul dwi'n cael gweithio ar fy mhrosiectau - dwi'n datblygu ap ar gyfer ffoaduriaid, ac mae'r gwaith arall dwi'n gwneud yn brosiect offer meddygol i helpu gyda llawdriniaethau."
Drwy'r ap mae e'n datblygu ar gyfer ffoaduriaid mae Abobakar yn gobeithio helpu pobl eraill yn yr un sefyllfa ag ef, sy'n cyrraedd gwlad newydd ac angen help i ddysgu am y diwylliant a'r iaith. Mae hefyd wedi datblygu diddordeb mewn ffiseg a rhaglennu cyfrifiadurol ac yn gobeithio cael ysgoloriaeth i fynd i'r brifysgol yn America i astudio ffiseg.
Cefndir
Ymysg ei gyfoedion yn y coleg, sy'n codi £68,000 i astudio cwrs dwy-flynedd chweched dosbarth, mae tywysogesau o Sbaen a'r Iseldiroedd yn ogystal a phlant eraill o gefndiroedd cyfoethog iawn.
Sut beth yw cymysgu gyda disgyblion o gefndiroedd mor wahanol i Abobakar?
Dywedodd: "O'm safbwynt i mae'n gyfartal. Does neb yn cael eu trin yn well na phawb arall.
"Mae llais cyfartal gan bawb beth bynnag ei gefndir. Ac mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd.
"Dwi'n caru'r amrywiaeth yma. Yn llythrennol, mae pobl o bob cwr o'r byd ac o gefndiroedd a safbwyntiau gwahanol iawn.
"Dwi'n caru'r ffaith bod gennych chi gymaint o bobl o gymaint o lefydd gwahanol a gyda'r un nod - eu bod nhw eisiau gwneud y byd yn le gwell.
"Nid dim ond trwy ddweud geiriau ond trwy gymryd camau go iawn a gwneud pethau go iawn.
"I fi, y dyfodol yw bod mewn amgylchedd amrywiol a chael cyfle i gyfnewid syniadau gyda phobl eraill sydd â diddordeb yn yr un pethau â chi.
"Mae'n gyffrous iawn."