Marwolaethau Covid ar lefel isaf ers pum mis
- Cyhoeddwyd
Mae gostyngiad wedi bod yn nifer y marwolaethau oherwydd Covid, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Yn yr wythnos hyd at 11 Chwefror bu farw 24 oherwydd Covid, sef y ffigwr isaf ers dros bum mis.
Yn seiliedig ar dystysgrifau marwolaeth roedd Covid yn ffactor mewn 40 achos - i lawr o 76 yr wythnos flaenorol.
Roedd y nifer a fu farw oherwydd y feirws saith gwaith yn fwy yn ystod yr un wythnos flwyddyn yn ôl.
Tra bu farw naw o fewn cartrefi gofal, ni recordiwyd unrhyw farwolaethau ym Mlaenau Gwent, Ceredigion, Merthyr Tudful, Powys nac ychwaith ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro.
Ers cychwyn y pandemig mae Covid wedi bod yn ffactor mewn 9,639 marwolaeth yng Nghymru.
Yn ôl yr ONS, ers Mawrth 2020 mae 6,179 yn fwy wedi marw na fyddai'n ddisgwyliedig ar gyfartaledd mewn cyfnod heb bandemig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022