Pobl fregus a'r rhai dros 75 i gael pedwerydd pigiad Covid
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl fregus ac oedolion dros 75 yn cael cynnig pedwerydd pigiad Covid-19 yn y gwanwyn.
Yn ôl y corff sy'n rhoi cyngor ar frechu, bydd y brechlyn ychwanegol yn rhoi amddiffyniad pellach ar ben y tri brechlyn sydd eisoes wedi eu cynnig.
Mae'n bosib y bydd y pedwerydd brechiad yn cael ei gynnig i grwpiau eraill yn yr hydref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyngor y cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio (JCVI).
Hyd yma, dim ond pobl sydd â systemau imiwnedd gwan iawn oedd yn gymwys ar gyfer pedwerydd brechlyn.
Ond, yn y gwanwyn, y grŵp o bobl fydd yn gallu cael brechlyn ychwanegol yw:
pob oedolyn dros 75 oed;
pobl mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn;
plant 12 oed ac yn hŷn sydd â system imiwnedd gwannach.
Bydd oedolion yn cael cynnig brechlyn Pfizer neu Moderna a phlant 12-18 oed yn derbyn Pfizer.
Yn ôl cyngor y JCVI, bydd gofyn bod bwlch o chwe mis rhwng eu dos diwethaf a'r pedwerydd brechlyn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan bod 70% o'r bobl sy'n gymwys wedi cael brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru.
"Mae pob brechiad a roddir yn helpu i ddiogelu Cymru. Heddiw, fel rhan o'i adolygiad diweddaraf o'r rhaglen frechu, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi datganiad sy'n argymell dos atgyfnerthu ychwanegol yn y gwanwyn i'n hunigolion mwyaf agored i niwed.
"Mae'r data hyn yn awgrymu bod imiwnedd pobl hŷn yn fwy tebygol o ostwng o ganlyniad i leihad yng ngallu'r system imiwnedd i ymateb yn effeithiol i heintiau neu frechlynnau, a'u bod yn llawer mwy tebygol o gael salwch difrifol os byddant yn cael eu heintio," dywedodd.
Ychwanegodd y Gweinidog ei bod hi'n bosib y bydd pobl sy'n wynebu "mwy o berygl o gael salwch difrifol os byddant yn dal COVID-19, fel y rheini sy'n hŷn a'r rheini sy'n perthyn i grwpiau risg clinigol" yn derbyn cynnig am y pedwerydd brechlyn yn yr hydref.
Dywedodd y bydd manylion y JCVI am y cynllun hwnnw yn cael ei rannu yn ddiweddarach.
Ychwanegodd hefyd "nad yw'n rhy hwyr" i bobl sydd heb dderbyn un o'r brechlynnau sydd wedi eu cynnig gan y byrddau iechyd i fynd am eu pigiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022