Dileu rheolau Covid yn 'gynamserol a di-hid'
- Cyhoeddwyd
Byddai dileu'r holl reolau Covid sy'n weddill yn "gynamserol a di-hid", yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru.
Mae disgwyl cyhoeddiad gan y Prif Weinidog brynhawn Llun ar sut fydd Lloegr yn "byw gyda Covid".
Yn ôl Boris Johnson, bydd yn helpu dod â chymdeithas "yn ôl tuag at normalrwydd".
Ond dywedodd Eluned Morgan byddai datgymalu profion torfol yn Lloegr "yn achosi problemau".
Bydd cyhoeddiad ar gynllun hirdymor i Gymru ar 4 Mawrth, gyda Llywodraeth Cymru'n dweud nad oes penderfyniad wedi'i wneud ar ddod â hunan ynysu gorfodol i ben os yn profi'n bositif.
'Rhy gynnar'
Wrth siarad cyn anerchiad Boris Johnson i Dŷ'r Cyffredin brynhawn Llun, dywedodd Ms Morgan: "Rydyn ni ar lwybr a fydd, gobeithio, yn ein harwain at bwynt lle byddwn ni'n dod â'r mesurau hyn i ben, ond rydym yn meddwl bod nawr yn rhy gynnar."
Gan cyfeirio at y system wyliadwriaeth sy'n edrych am amrywiolion newydd, ychwanegodd: "Yr hyn sy'n cael ei gynnig, yn ôl synau pethau, yw system sy'n datgymalu popeth ond heb gynllun i'w hailadeiladu os oes angen."
Mae cyfreithiau hunan-ynysu i fod i ddod i ben ar 28 Mawrth.
"Fe fydd yn rhaid i ni edrych a ydyn ni'n ymestyn y ddeddfwriaeth neu a fydden ni'n caniatáu iddi setlo bryd hynny," meddai Ms Morgan.
"Nid yw'r penderfyniadau hynny wedi'u gwneud eto."
Gan bwysleisio angen i'r system brofi fod yn un sy'n gweithio ar draws y DU, ychwanegodd: "Dyna beth sy'n arwain at gynddaredd ymysg y llywodraethau datganoledig, oherwydd bod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud heb y math o ymgynghori ac yn sicr cytundeb y gweinyddiaethau datganoledig."
Dydd Sadwrn fe ysgrifennodd arweinwyr llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon at weinidogion y DU, yn dadlau y dylai fod "trosglwyddiad wedi'i reoli" o brofion tan ddiwedd mis Mehefin.
Yn ogystal, gofynnwyd am barhau i brofi o dan rai amgylchiadau hyd yn oed wedi hynny, gan gynnwys amddiffyn y rheiny sy'n wynebu'r risg fwyaf.
Bu galw hefyd am am sicrwydd ynghylch cyllid "i gefnogi'r holl genhedloedd i amddiffyn iechyd eu cyhoedd fel y gwelant yn briodol".
Ond yn ôl Llywodraeth y DU mae'r rhaglen frechu Covid wedi rhoi Lloegr mewn "sefyllfa gref i ystyried codi'r cyfyngiadau cyfreithiol sy'n weddill".
Ychwanegodd y byddai'r cynllun ar gyfer "byw gyda Covid" yn cymryd "dull gofalus" gan gadw "rhai systemau gwyliadwriaeth a chynlluniau ar gyfer mesurau wrth gefn".
'Penderfyniadau anodd'
Bydd pobl yn wynebu penderfyniadau anodd iawn yn sgil cyhoeddiad Boris Johnson, yn ôl Dr Dylan Jones, sy'n ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor.
Mater hawdd yw cynghori'r cyhoedd i ddangos synnwyr cyffredin "os ydy'r adnoddau ddim yna i bobl medru neud y penderfyniad i hunan-ynysu [a] ddim yn ca'l gw'bod os ydyn nhw 'efo Covid yn y lle cynta'" meddai ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth.
Bydd pobl ar incwm isel hefyd yn pwyso a mesur a allen nhw fforddio "rhoi bwyd ar y byrddau ta ddim os ydy'r cyflog ddim yn dod i fewn" pan na fydd taliadau o £500 ar gael iddyn nhw hunan-ynysu o ddydd Iau ymlaen.
Ychwanegodd y bydd stopio cynnig profion Covid am ddim yn gwneud hi'n anodd gwybod i ba raddau y mae'r feirws yn lledu o fewn y boblogaeth, ac i lywodraethau ymateb yn gyflym i unrhyw amrywiolion newydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2022