Y Gynghrair Genedlaethol: Chesterfield 0-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ollie PalmerFfynhonnell y llun, Lloyd Jones/Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Fe gostiodd Ollie Palmer, 30, tua £300,000 i Wrecsam o Wimbledon ym mis Ionawr

Sgoriodd Ollie Palmer ddwywaith i roi buddugoliaeth hollbwysig i Wrecsam yn erbyn Chesterfield yn y Gynghrair Genedlaethol.

Y tîm cartref oedd ar y droed flaen yn yr hanner cyntaf, gyda golwr Wrecsam Rob Lainton yn dod i'r adwy ar sawl achlysur.

Roedd yr ymwelwyr yn llawer gwell yn yr ail hanner, a Palmer beniodd Wrecsam ar y blaen wedi i Scott Loach arbed foli Jordan Davies.

Cafodd Palmer ei ail 10 munud yn ddiweddarach, gan selio buddugoliaeth sy'n codi Wrecsam i bumed yn y gynghrair, dri phwynt y tu ôl i Chesterfield.