Y gogledd-ddwyrain yn anelu am ddynodiad Cymuned Awyr Dywyll

  • Cyhoeddwyd
Tŵr y Jiwbili ar gopa yn rhan o Moel FamauFfynhonnell y llun, Dylan Parry Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tŵr y Jiwbili ar gopa Moel Famau yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Clwyd

Gallai rhan helaeth o ucheldir y gogledd-ddwyrain gael ei gydnabod fel hafan i wylio'r sêr cyn hir.

Mae'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) leol yn anelu at yrru eu cais am ddynodiad awyr dywyll byd-eang eleni.

Dyma fyddai'r pedwerydd sefydliad yng Nghymru i dderbyn statws gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.

Yr wythnos hon, mae digwyddiadau yn cael eu cynnal fel rhan o Wythnos Awyr Dywyll Cymru, sy'n digwydd am y tro cyntaf.

Un o'r gweithgareddau hynny oedd tro i syllu ar y sêr ar Foel Famau, sydd wrth galon AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Ffynhonnell y llun, Dylan Parry Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bryngaer Caer Drewyn yn y nos

Dywedodd rheolwr yr AHNE, David Shiel, bod y wybren yn "rhan bwysig iawn o'r tirlun".

"Mae'n bwysig iawn, iawn ar gyfer bioamrywiaeth o fewn yr AHNE hefyd," meddai.

"Mae tua 60% o'n bioamrywiaeth yn dibynnu ar dywyllwch. Felly 'dan ni'n ceisio cymryd camau i gadw ansawdd ein hawyr."

'Yr awyr yn perthyn i bawb'

Anelu am ddynodiad Cymuned Awyr Dywyll mae'r AHNE. I gael hwnnw, mae angen profi i'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol bod yr ardal yn dangos "ymrwymiad eithriadol i warchod yr awyr dywyll" drwy fesurau i gyfyngu ar lygredd golau ac addysgu pobl am yr awyr.

Ac mae llawer i'w ddysgu o edrych ar y gofod, yn ôl y gwyddonydd Rob Jones, oedd yn arwain y daith fyny Moel Famau.

"Mae'r awyr yn perthyn i ni i gyd," meddai. "Efallai eich bod chi'n edrych fyny ac yn meddwl am stori, neu yn edrych fyny ac yn meddwl am agwedd ddiwylliannol neu wyddonol.

"Mae pawb yn cymryd rhywbeth gwahanol allan ohono fo, ond pan 'dan ni'n dod at ein gilydd heno i rannu'r straeon a'r wybodaeth 'ma, mae'n neis iawn."

Ffynhonnell y llun, Dylan Parry Evans
Disgrifiad o’r llun,

Moel Famau yw'r mynydd uchaf yn Nyffryn Clwyd

Mae pum AHNE Cymru yn anelu am y statws rhyngwladol yn y pen draw, ac mae sawl lleoliad ar draws Cymru, gan gynnwys rhannau o fynyddoedd y Cambria a Sir Benfro wedi cael cydnabyddiaeth ar lefel Brydeinig.

Yng Nghlwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae modd gweld llygredd golau o ardaloedd poblog cyfagos fel Glannau Dyfrdwy, Wrecsam a dinasoedd gogledd-orllewin Lloegr.

'Gwarchod yr awyr dywyll i genedlaethau'r dyfodol'

Ond er hynny, mae'n un o'r llefydd gorau i dynnu lluniau o'r gofod, yn ôl yr astro-ffotograffydd Dylan Parry Evans.

Ac ym myd sensitif ffotograffiaeth, mae lleihau llygredd golau yn hanfodol.

"Mae llygredd golau yn gallu stopio fi rhag gwneud fy ngwaith, i ddweud y gwir," meddai.

"Ac mae 'na bwyntiau lle mae hi mor ddrwg, dw i methu tynnu lluniau achos yr oll dw i'n ei weld ydy llygredd golau.

"Mae'r dynodiad, am wn i, yn sicrhau ein bod ni'n gwarchod yr awyr dywyll i genedlaethau'r dyfodol.

"Mae'r gwaith sy'n digwydd yn sicrhau bod llai o lygredd golau, ac wrth iddo fo fynd yn ei flaen mi fyddan ni'n sicrhau y bydd 'na awyr dywyll i edrych arni ymhen cannoedd o flynyddoedd."

Pynciau cysylltiedig