Adolygiad ar sut i wella Llwybr yr Arfordir

  • Cyhoeddwyd
Arfordir de Sir BenfroFfynhonnell y llun, Ron Evans/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arfordir Sir Benfro yn 186 o filltiroedd o hyd

Gyda Llwybr Arfordir Cymru yn ddeg oed eleni, bydd adolygiad o'r llwybr yn cael ei gynnal i edrych ar sut y gall pobl leol elwa mwy ohono.

Yn 870 milltir, o gyrion Caer yn y gogledd i Gasgwent yn y de, fe ddenodd y llwybr bron i dair miliwn o ymwelwyr yn ei flwyddyn gyntaf a chyfrannu £32 miliwn i'r economi, yn ôl astudiaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Aelod Senedd Ogwr, Huw Irranca-Davies, arwain adolygiad i geisio asesu beth yw cyfraniad y llwybr erbyn hyn a beth yw ei botensial.

Un o'r busnesau sydd wedi elwa o'r llwybr ydy gwesty Lastra ger Amlwch ar Ynys Môn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Adrian Parry yn berchen ar westy ar Ynys Môn ac mae'n dweud bod y busnes yn elwa o ymwelwyr y llwybr

Yn ôl y perchennog, Adrian Parry, mae'r llwybr yn "fusnes mawr" gyda chwmnïau wedi'u creu i drefnu gwyliau cerdded ar gyfer y llwybr.

"Y flwyddyn cyn Covid roedd y cwmnïau wedi bwcio 350 o nosweithiau yn y gwesty," dywedodd.

"Wrth gwrs mae'r spend yn bedrooms, ond mae 'na fwy o spend, up-sell, efo bwyd a diod. 'Den ni'n 'neud packed lunches iddyn nhw hefyd a mae hwnna'n up-sell arall. Mae o'n fusnes mawr 'de."

"'Dan ni ddim ond un gwesty. Mae 'na tua 25 o lefydd aros ar yr ynys yn elwa o hyn i gyd. Mae o werth lot i'r economi lleol 'de."

Er hynny mae'n teimlo bod lle i wella yn arbennig o ran trafnidiaeth.

"Os ydy pobl yn dod yn unigol - a ddim drwy'r cwmnïau - dwedwch bod nhw'n cerdded o Amlwch i Moelfre heddiw, mae nhw isio rhyw fath o drafnidiaeth i ddod 'nôl i fa'ma.

"Dydy bysiau ddim yn rhedeg, mae angen mwy o fysiau ac infrastructure i'r bobl sy'n cerdded bob dydd. Ac mae 'na gannoedd yn cerdded yn yr haf. Dyna'r peth mwyaf."

Disgrifiad o’r llun,

Rhan o'r llwybr ar arfordir Ynys Môn

'Pwysig edrych yn ffres ar bethau'

Yn ôl Huw Irranca-Davies AS, mae'n "bwysig edrych ar yr economi ymwelwyr ond hefyd pethau fel iechyd meddwl, a'r argyfwng hinsawdd.

"Mae llawer o bethau ar y degfed penblwydd, mae'n bwysig edrych yn ffres ar y pethau hyn achos mae potensial enfawr gyda'r llwybr wrth edrych ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucy a'i ffrind, Eirlys, wedi cyhoeddi llyfr am eu teithiau o amgylch Llwybr Arfordir Cymru

Cyn y pandemig, fe gerddodd Lucy O'Donnell, 50, o Gaerdydd, y llwybr gyda'i chyfaill Eirlys Thomas, 71, hefyd o Gaerdydd.

Doedden nhw ddim wedi bwriadu cerdded y llwybr cyfan, dim ond rhannau i gadw'n heini, ond yn ôl Lucy fe ddaeth yn un o "anturiaethau gorau" ei bywyd.

"Mae'r bobl gwrddon ni yn grêt... i siarad am bethau Cymraeg. Dwi'n dysgu Cymraeg felly dwi'n ymarfer yn cerdded ar y llwybr. Mae'n amser gwych."

Mae Lucy ac Eirlys bellach wedi cyhoeddi llyfr am eu teithiau 'Slow Walking the Wales Coastal Path'.

Hoff ran Lucy o'r llwybr oedd Sir Benfro.

"Mae'r llwybr yno yn hen. Mae'r olygfa yn hyfryd ac mae'r challenge yn galed, i gerdded i fyny ac i lawr. Mae'r olygfa yn hyfryd."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Traeth godidog Barafundle yn Sir Benfro

Dechreuodd y gwaith ar y llwybr yn 2007, gyda'r bwriad o adeiladu ar lwyddiant y llwybr yn Sir Benfro ac ar Ynys Môn.

Mae'n amgylchynu dau Barc Cenedlaethol, 11 Gwarchodfa Natur Genedlaethol a dwsinau o Fannau o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Swyddog Llwybr yr Arfordir yn y gogledd ydy Gruff Owen sy'n hanu o Sir y Fflint.

Er bod golygfeydd godidog mewn rhannau eraill o Gymru, mae'n dweud mai ei hoff rannau ydy'r rheiny yn ardaloedd diwydiannol y dwyrain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ardaloedd o'r llwybr, fel ger Afon Dyfrdwy, yn "ysbrydoliaeth" i Swyddog Arfordir y Llwybr yn y gogledd, Gruff Owen

"O'n i'n arfer osgoi'r ardaloedd yna. Ond ers i ni greu Llwybr yr Arfordir, 'den ni wedi newid y tirwedd rywsut,2 meddai.

"Mae pobl yn teimlo bod 'na groeso iddyn nhw yna rŵan. Mae nhw'n gallu mwynhau yr Afon Dyfrdwy, mwynhau'r byd natur sydd yna.

"Mae'r llwybr, dwi'n teimlo - ac o siarad efo pobl leol, wedi agor i fyny lle o'r blaen doedd na ddim yr un mynediad at fyd natur.

"Felly os dwi isio ysbrydoli fy hun, os ydw i eisiau gweld faint o wahaniaeth mae Llwybr yr Arfordir wedi ei wneud, af i draw i'r ardal yna."