Y Bencampwriaeth: Huddersfield 2-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Lewis O'Brien o Huddersfield yn ymladd am y bel gyda Ryan Wintle o GaerdyddFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Lewis O'Brien o Huddersfield yn ymladd am y bêl gyda Ryan Wintle o Gaerdydd

Fe wnaeth dwy gôl hwyr i'r tîm cartref sicrhau fod yr Adar Gleision yn teithio'n ôl i Gymru yn waglaw.

Roedd rheswm i gredu fod gôl Tommy Doyle wedi sicrhau colled gyntaf Huddersfield ers mis Tachwedd.

Ond llwyddodd Josh Koroma i unioni'r sgôr ar ôl 88 munud, er mawr ryddhad i'r cefnogwyr cartref.

Roedd yna fwy o reswm iddynt ddathlu yn ystod amser ychwanegol wedi i Jonathan Russell sicrhau'r triphwynt gydag ergyd bwerus.

Er y diffyg meddiant, Caerdydd greodd gyfleon gorau'r hanner cyntaf gyda Mark McGuinness a Tommy Doyle yn mynd yn agos.

Drwy ildio'r ddwy gôl hwyr - yr ail gyda chymorth chwaraewr Cymru, Sorba Thomas - mae'r Adar Gleision yn aros yn y 19eg safle.