Oriel Luniau: Awyr Dywyll Cymru
- Cyhoeddwyd

Yr wythnos yma mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y cyd gyda Prosiect Nos wedi bod yn dathlu harddwch naturiol yr Awyr Dywyll.
Mae sawl safle ar draws Cymru, ac o fewn ffiniau'r tri Pharc Cenedlaethol yn Eryri, Brycheiniog ac Arfordir Penfro ble mae modd gwerthfawrogi'r awyr dywyll heb unrhyw lygredd goleuni.
Mae sawl gweithgaredd wedi'i drefnu yn ystod yr wythnos sy'n annog pobl i fynd allan ac edrych fyny tua'r awyr.
Diolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am roi caniatâd i BBC Cymru Fyw i arddangos yr oriel anhygoel o luniau sy'n cynnwys rhai gan y ffotograffydd Keith O'Brien.

Lleuad Fedi yn goleuo Cwm Prysor

Llwybrau'r Sêr o Gwm Dolgain

Mae'r ffermdy hwn wedi ei leoli mewn lle perffaith i werthfawrogi'r awyr dywyll ym Mhenfro

Ar lan y môr yn Sir Benfro mae modd edrych allan am filltiroedd dros y dŵr

Llyn Cregennan ger Dolgellau gyda Caer Arianrhod ac Actwrws yn Bootes uwch law y dŵr

Y blaned Fenws i'w weld yn glir ger Trawsfynydd

Cronfa ddŵr Tal-y-bont o dan y sêr

Yr awyr dywyll uwch ben Pen y Fan ar y Bannau Brycheiniog

Goleuni'r Gogledd dros Drawsfynydd

Y Llwybr Llaethog o Abergeirw, Gwynedd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019