A fydd cyfyngiad o 50mya ar fwy o ffyrdd Cymru?
- Cyhoeddwyd

Mae ardal 50mya eisoes ar yr M4 drwy Port Talbot
Gallai cyfyngiad o 50mya gael ei gyflwyno ar fwy o ffyrdd prysuraf Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru am geisio lleihau nwy nitrogen deuocsid (NO2) ar yr A470 rhwng Coryton a Nantgarw, ac ar yr M4 rhwng C43 Llandarcy a C44 Lon-las.
Mae'n adolygu "bob opsiwn ymarferol" ond dywedodd ei bod yn rhy fuan i ddweud os fyddai'n arwain at barthau 50mya.
Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus ar restr fer o ddewisiadau maes o law.
Mae gostwng cyflymder eisoes yn digwydd mewn mannau ar draws Cymru sy'n diodde' llygredd, a lle mae pobl wedi arfer cael gyrru ar gyflymder o 70mya.

Mae angen lleihau lefelau NO2 ar yr M4 rhwng cyffyrdd 43 a 44
Beth yw'r broblem gyda NO2?
Yn ôl un swyddog yn y llywodraeth dyma "ddechrau'r daith" tuag at ddefnyddio terfynau cyflymder ar gyfer rhesymau amgylcheddol.
Mae 'na dargedau i leihau lefelau NO2, sy'n cael ei gynhyrchu pan mae tanwydd yn cael ei losgi.
Mae'r nwy wedi cael ei gysylltu â phob math o broblemau iechyd, gan gynnwys problemau'r ysgyfaint mewn plant a chlefyd Alzheimer's mewn oedolion.
Beth yw cost parthau 50mya?
Ers 2018 mae Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na £5.6m yn creu pum ardal 50mya ar safleoedd lle mae lefelau peryglus o NO2, yn ôl ymateb i gais gan y ddeddf rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.
Mae'r arian wedi talu am fonitro llygredd, gosod arwyddion newydd a chamerâu cyflymder newydd.
Mae gyrwyr sy'n cael eu dal am y tro cyntaf yn derbyn llythyr yn egluro peryglon NO2. Gall pobl sy'n troseddu fwy nag unwaith ddisgwyl cael dirwy.

Un o'r ardaloedd 50mya yw'r A494 rhwng Ewlo a'r ffin gyda Lloegr
Fe wnaeth yr heddlu ddechrau gorfodi'r cyflymder is ar yr M4 a thair ffordd A y llynedd, sef:
Yr A494 ger y ffin â Lloegr a Chyfnewidfa Dewi Sant yn Ewlo, Sir y Fflint;
Yr A483 rhwng cyffyrdd 5 a 6 yn Wrecsam;
Yr A470 rhwng Glan-bâd a Phontypridd, Rhondda Cynon Taf;
Yr M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 ym Mhort Talbot;
Yr M4 rhwng cyffyrdd 24 a 28 ger Casnewydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno 40,013 o nodiadau rhybudd hyd at 4 Chwefror.

Un o'r ardaloedd dan sylw Llywodraeth Cymru yw'r A470 ger cyfnewidfa Coryton/Nantgarw
Fis Medi diwethaf, tua'r un adeg y daeth y cyfyngiadau 50mya i rym, fe wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ostwng y lefel o lygredd NO2 sy'n dderbyniol o 75%.
Mae'r gyfraith nawr yn galw am gadw lefelau NO2 i 40mg am bob metr ciwbig, sy'n seiliedig ar hen darged y WHO.
Nod newydd y WHO yw 10mg am bob metr ciwbig.
Fe ddywed arbenigwyr y byddai newid i geir trydan yn gymorth mawr i gyrraedd y nod, ond er bod gwerthiant ceir o'r fath yn cynyddu, does dim digon hyd yma i leihau llygredd mewn mannau prysur.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019