Dynes, 65, wedi marw ar ôl gwrthdrawiad â threlar ym Môn

  • Cyhoeddwyd
B5111 rhwng Coed Anna a LlannerchymeddFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B5111 rhwng Coedana a Llannerch-y-medd

Bu farw dynes 65 mlwydd oed yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar Ynys Môn ddydd Gwener.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r B5111 rhwng Coedana a Llannerch-y-medd am tua 16:30.

Roedd y ddynes yn gyrru Peugeot 208 llwyd o gyfeiriad Llangefni pan fu mewn gwrthdrawiad gyda Nissan Navara gwyn â threlar a oedd yn teithio o gyfeiriad Llannerch-y-medd.

Ni chafodd gyrrwr y Nissan Navara ei anafu.

Dywed yr heddlu fod y crwner wedi cael gwybod ac mae'r llu yn apelio am dystion.

"Estynnaf fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu'r ddynes," meddai Sarjant Raymond Williams o'r Uned Plismona'r Ffyrdd. "Maent yn cael cefnogaeth gan Swyddog Cyswllt Teulu arbenigol ar hyn o bryd.

"Rwy'n annog unrhyw un welodd y damwain, neu rywun oedd yn teithio ar y B5111 ar amser y gwrthdrawiad i gysylltu â'n tîm cyn gynted â phosib i helpu gyda'n hymchwiliad.

"Rwy'n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd hefo dystiolaeth ar dashcam o unrhyw un o'r cerbydau.

"Roedd y ffordd ar gau er mwyn i'r Uned Gwrthdrawiadau Fforensig casglu tystiolaeth. Ail agorwyd y ffordd am 23:30. Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."

Pynciau cysylltiedig