Y Chwe Gwlad 2022: Lloegr 23-19 Cymru
- Cyhoeddwyd
![Dombrandt](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4DD3/production/_123432991_gettyimages-1372988468.jpg)
Alex Dombrandt sgoriodd unig gais Lloegr ddydd Sadwrn
Roedd hi'n ymdrech arwrol gan Gymru yn yr ail hanner ond colli oedd hanes y cochion yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Mewn gêm flêr, fe sgoriodd Cymru dri chais i un Lloegr, gyda'r ymwelwyr ar ei hôl hi o 17-0 ar un adeg.
Rhoddodd seren y gêm Marcus Smith y tîm cartref 12-0 ar y blaen ar yr egwyl, cyn i Alex Dombrandt fynd drosodd i ymestyn y fantais.
Daeth Cymru yn ôl ar garlam wrth i Josh Adams groesi, cyn i Nick Tompkins wasgu rhwng crysau gwyn i'w gwneud hi'n 17-12.
Sgoriodd Lloegr bâr o giciau cosb, ond fe wnaeth cais Kieran Hardy gadw'r ornest yn fyw gyda'r cloc wedi mynd heibio'r 80 o bum munud erbyn y diwedd.