Y Bencampwriaeth: West Bromwich Albion 0-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Roedd dwy gôl hwyr yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth nodedig i'r Elyrch ar yr Hawthorns nos Lun.
Er yn gêm ddigon di-fflach ar adegau, mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn codi i'r 16eg safle.
Roedd yna sgorio wedi 79 munud, diolch i waith Olivier Ntcham a Semi Ajayi yn darganfod Joel Piroe, gyda'i ergyd yn mynd drwy goesau Sam Johnstone.
Er mawr orfoledd i'r cefnogwyr oddi cartref dyblwyd y fantais bum munud yn ddiweddarach.
Gyda'r bêl yn syrthio i Cyrus Christie, llwyddodd y cefnwr i ergydio heibio Johnstone unwaith eto.
Daeth West Brom agosaf i sgorio gydag ergydion gan Callum Robinson yn taro ffrâm y gôl y naill ochr i'r egwyl.
Ond wedi trechu'r tîm cartref yn nhermau meddiant a chyfleon, noson yr Elyrch oedd hon i fod.