Mart Caerfyrddin yn ailagor a chreu swyddi newydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Mart Caerfyrddin yn ailagor ddydd Mercher gyda chwmni newydd wrth y llyw a hynny wedi iddo fod ynghau ers Gorffennaf 2020.
Roedd yna bryderon na fyddai'r farchnad yn Nant-y-ci ger Caerfyrddin yn agor eto ar ôl i BJP Marts, oedd yn rhedeg y lle, wynebu trafferthion ariannol.
Nock Deighton Agricultural LLP o'r Amwythig sy'n ailagor y farchnad wedi gwaith adnewyddu gan y landlordiaid, Cyngor Sir Gâr.
Mae 19 o swyddi newydd wedi eu creu yn sgil yr ailagor.
'Sbardun economaidd a chymdeithasol'
Dywedodd Mark Burgoyne, arwerthwr gyda Nock Deighton, bod yr adnewyddiad wedi creu "adnodd modern iawn, iawn" sydd "heb ei ail... ac mewn lleoliad ffantastig".
Dywedodd wrth raglen BBC Radio Wales, Country Focus, ei fod yn disgwyl "diwrnod prysur" ar y diwrnod cyntaf a bod "llawer o ddiddordeb" wedi ei ddangos wrth i'r mart ailagor.
"Rydym yn edrych ymlaen at yr her o reoli Mart Caerfryddin," meddai.
"Gyda help ffermwyr a busnesau eraill, fe all Caerfyrddin ddychwelyd i fod yn hwb gwledig a dylai hyn fod yn sbardun economaidd a chymdeithasol i'r ardal leol a thu hwnt."
Mae cwmni Nock Deighton, sy'n 190 mlwydd oed, yn rhedeg Canolfan Da Byw ac Arwerthu Bridgenorth yn Sir Amwythig a nhw hefyd sy'n rhedeg marchnad da byw Castellnewydd Emlyn ers 2018.
Bydd y mart cyntaf ddydd Mercher yn gwerthu lloi - lloi hyd at 10 mis oed a gwartheg godro.
Ddydd Gwener, bydd gwerthiant gwartheg hesb, gwartheg stôr a defaid.
Bydd y gwerthiannau eraill yn cynnwys gwerthiant lloi sugno a theirw magu ar ddydd Llun cyntaf pob mis.
Mae gan y safle yn Nant-y-ci ddau safle arwerthu. Mae'r adeiladau yn gallu dal rhwng 5,000-6,000 o ddefaid a bron i 1,000 o wartheg.
'Braf iawn gweld y lle'n brysur eto'
Mae'r Cynghorydd lleol, Ann Davies, yn ffermio'n lleol ac yn aelod cabinet dros faterion gwledig.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast bod cau'r farchnad dros 18 mis wedi bod yn "golled mawr".
"Ry'n ni mewn sir amaethyddol a felly'n mae'n hollbwysig fod 'na farchnad lewyrchus, brysur ar gyrion Caerfyrddin," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn "falch iawn" o weld y farchnad yn ailagor.
"Mae'n safle arbennig, mae wrth ochr prif heol, chi'n mynd lawr i Sir Benfro a draw i Iwerddon neu'r ffordd arall i Gaerdydd. Felly'n braf iawn iawn gweld y lle yn fishi 'to bore 'ma."
Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod Mart Caerfyrddin yn "elfen bwysig o economi wledig Sir Gaerfyrddin" ac y bydd pobl "wrth eu bodd yn gweld y mart yn cael ei ddefnyddio unwaith yn rhagor".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020