Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-0 Derby County

  • Cyhoeddwyd
Cardiff v DerbyFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr Derby, Wayne Rooney, yn annog ei chwaraewyr wrth i'w dîm herio Caerdydd yn y brifddinas

Roedd gôl hwyr Uche Ikpeazu yn ddigon i sicrhau triphwynt gwerthfawr i'r Adar Gleision nos Fawrth.

Y tîm oddi cartref reolodd fwyafrif y gêm o ran meddiant, wrth iddynt frwydro i aros i fyny.

Tarodd Derby'r postyn gydag awr ar y cloc, diolch i arbediad Smithies, gyda Kazim-Richards yn methu manteisio.

Ond Caerdydd orffennodd gryfaf, ac mewn gêm yn brin ar safon, roedd gallu Ikpeazu i gymryd ei gyfle werth y tri phwynt.

Wedi i Joe Ralls daro'r trawst ond dri munud ynghynt, daeth y gôl holl bwysig wedi 85 munud er i Derby deimlo fod Ikpeazu wedi troseddu yn erbyn yr amddiffynnwr, Curtis Davies.

Gyda Ikpeazu yn sgorio'i drydydd mewn chwe gêm, mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd fyny i 19eg yn y gynghrair.

Wedi'r gêm, fe gyhoeddodd Caerdydd fod y rheolwr Steve Morison wedi ymestyn ei gytundeb gyda'r clwb er mwyn aros wrth y llyw nes diwedd y tymor nesaf.