Cynnal sawl digwyddiad ledled Cymru i gefnogi Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 150 o bobl i'r digwyddiad yng nghanol Llangefni

Mae sawl digwyddiad wedi cael eu cynnal ledled Cymru nos Iau er mwyn dangos cefnogaeth i'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin.

Cynhaliwyd gwylnos yn Eglwys Sant Ioan yng nghanol Caerdydd, tra bod rali wedi'i chynnal yn Llangefni ar Ynys Môn.

Roedd yr wylnos yng Nghaerdydd wedi'i threfnu gan Esgobaeth Llandaf, ac un o'r rheiny fu'n cymryd rhan oedd y Parchedig Dyfrig Lloyd, ficer Eglwys Dewi Sant.

"Rwy'n credu ein bod ni gyd yma yng Nghymru yn teimlo yn weddol ddiymadferth, moyn helpu ond methu helpu, ac un o'r ffyrdd ru'n ni'n gallu helpu yw trwy weddïo," meddai ar raglen y Post Prynhawn yn gynharach.

"Mae pob gwrthdystiad, gwylnos, pob ymdrech i godi arian a chasglu nwyddau yn un cam yn nes o fynegi ein llais at y lled fyddarol byd eang sy'n galw am ddiwedd i'r rhyfel hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth nifer o bobl ynghyd yn Eglwys Sant Ioan yng nghanol Caerdydd, gan gynnwys y Prif Weinidog Mark Drakeford

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Baneri Cymru a Wcráin yn hedfan ochr yn ochr uwchben swyddfeydd Cyngor Môn

Daeth tua 150 o bobl i'r digwyddiad yng nghanol Llangefni, ble fu'r Aelod Senedd lleol ac arweinydd y cyngor yn annerch y dorf.

"'Dan ni yma i ddangos undod a chryfder gyda phobl Wcráin," meddai Rhun ap Iorwerth AS.

"'Dan ni'n sefyll ynghyd fel cymuned yn condemnio'r gweithredoedd ffiaidd [gan Rwsia].

"Rydym yn meddwl am y mamau a'r anwyliaid - nid rhai lluoedd Wcráin yn unig ond Rwsia hefyd. Dydy [Vladimir] Putin yn poeni dim amdanyn nhw.

"Rydyn ni'n gobeithio ac yn gweddïo am ddiwedd ar y rhyfel fel y gall gwlad fyw mewn heddwch."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn dweud fod dros filiwn o bobl wedi ffoi o Wcráin ers dechrau'r brwydro

Ychwanegodd y Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn: "Mae hwn yn gyfnod erchyll i bobl Wcráin ac rydym yn condemnio'r trais hwn gan Rwsia nad oes modd ei gyfiawnhau.

"Mae baneri Cymru a Wcráin bellach yn hedfan ochr yn ochr uwchben swyddfeydd y cyngor yn Llangefni.

"Mae'n rhywbeth bach ond mae'n arwydd ein bod yn sefyll ochr yn ochr ag Wcráin ac ein bod yn cydnabod yr hyn mae'r wlad a'i phobl yn ei ddioddef ar hyn o bryd.

"Rydym ni gyd yn gobeithio gweld diwedd yr elyniaeth cyn gynted â phosibl a datrysiad heddychlon."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Llywodraeth Wcráin sy'n dal i reoli Kyiv, ond mae lluoedd Rwsia yn nesáu at y brifddinas

Mae Anne Arkle - fu'n mynychu'r rali yn Llangefni - yn creu gemwaith, ac fe fydd hi'n rhoi £5 o bob gwerthiant fis yma tuag at elusennau sy'n rhoi cymorth i bobl Wcráin.

"'Dan ni i gyd yn teimlo fel nad oes unrhyw beth allwn ni ei wneud i helpu, yn dydyn?" meddai.

"Oll allwn ni geisio ei wneud ydy codi arian i helpu pobl.

"Alla i ddim dychmygu sut beth ydy hi i orfod gadael popeth ar ôl - mae'n ofnadwy."

Pynciau cysylltiedig