Clwb Rygbi Llangefni yn 50
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 50 mlynedd ers sefydlu Clwb Rygbi Llangefni, pan ddaeth dau ŵr o Rydaman, Trevor Jones a Vernon Gwyr i weithio yn y dref.
Yn nhafarn y Railway oedd y cyfarfod cyntaf, gyda 20-30 o hogia lleol yn bresennol i sefydlu'r clwb sy'n ganolfan gymunedol bwysig yn y dref fyth ers hynny.
Yn 1988 sefydlwyd timau iau gan y clwb, ac yn 1999 fe agorwyd tŷ clwb newydd.
Mae'r clwb wedi cael llawer o lwyddiannau dros y blynyddoedd, gan feithrin doniau cenedlaethau o chwaraewyr, gyda chanolwr y Gweilch, Cymru a'r Llewod, George North yn eu plith.
Dywedodd cadeirydd presennol y clwb, Dylan Jones: "Gen i atgofion da o'r clwb o'r cychwyn cyntaf. Dwi 'di gwneud lot o ffrindiau yma a chael lot o hwyl. Mae o'n glwb cymunedol, yn glwb cyfeillgar, ac yn glwb teuluol."