Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Ulster 48-12 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd Rygbi Caerdydd gweir yn Stadiwm Kingspan yn Belfast nos Wener wrth i Ulster sgorio saith cais heibio'r Cymry.
Daeth y cais cyntaf wedi wyth munud, wrth i Robert Baloucoune fanteisio wedi i'r bêl fownsio'n lwcus dros ben Hallam Amos i groesi i'r tîm cartref.
Fe welodd Willis Halaholo gerdyn melyn am dacl beryglus ar James Hume, ac fe fanteisiodd Ulster ar hynny wrth i Hume groesi am gais o fewn ychydig funudau.
Fe wnaeth Stuart McCloskey ychwanegu trydydd cais i'r tîm cartref o ymosodiad olaf yr hanner cyntaf er mwyn rhoi mantais o 22-0 i'r Gwyddelod ar yr egwyl.
Daeth cais cyntaf i'r Cymry ar ddechrau'r ail hanner gyda'r bachwr Kirby Myhill yn croesi yn y gornel, cyn i Nick Timoney daro 'nôl yn syth i Ulster.
Ychwanegodd Baloucoune bumed cais i'r tîm cartref, cyn i Aaron Sexton sgorio'r chweched a Tom Stewart y seithfed, ac roedd 10 munud yn weddill i chwarae.
Llwyddodd yr eilydd James Ratti i groesi am ail gais Caerdydd gydag ychydig funudau i fynd, ond roedd hi'n noson anodd iawn i'r Cymry.