Rhybudd am ymddygiad wrth i Gasnewydd herio Bristol Rovers

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogwyr Casnewydd a Bristol Rovers wedi cael rhybudd i beidio â chamymddwyn

Mae cefnogwyr pêl-droed yn cael eu rhybuddio y bydd yr heddlu yn delio gydag unrhyw gamymddwyn "yn gadarn" wrth i Gasnewydd groesawu Bristol Rovers ddydd Sadwrn.

Mae ychydig o ddrwgdeimlad rhwng cefnogwyr y ddau glwb oherwydd agosatrwydd y ddwy ddinas, gyda'r ffin yn eu gwahanu.

Dywedodd y Prif Arolygydd John Davies o Heddlu Gwent y byddai pobl yn gweld mwy o swyddogion ar strydoedd Casnewydd o amgylch y gêm yn Rodney Parade.

Ychwanegodd fod yr heddlu eisiau sicrhau ei fod yn "ddigwyddiad diogel i bawb".

"Ry'n ni'n croesawu pobl i Gasnewydd ond mae 'na linell, ac os oes rhywun yn croesi'r llinell fe fyddwn ni'n delio gyda hynny'n gadarn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif Arolygydd John Davies y bydd "unrhyw un sy'n cyflawni trosedd yn cael eu herlyn"

Dyw'r ddau dîm heb gwrdd yn Rodney Parade ers 2016, gyda'r Prif Arolygydd Davies yn dweud y bu "mân drafferthion" yn ystod y gêm honno.

Dywedodd fod trais yn parhau i fod yn broblem ym myd pêl-droed o bryd i bryd.

'Cynnydd mewn achosion o drais'

"Mae'n dal i fod yn rhan o bêl-droed, ac yn genedlaethol mae 'na gynnydd wedi bod mewn achosion o drais," meddai'r Prif Arolygydd Davies.

"Ry'n ni'n gobeithio osgoi hynny, a dyma'r rheswm ni wedi cynllunio, fel nad ydyn ni yn cael ein hunan i'r sefyllfa yna yng Nghasnewydd.

"Bydd unrhyw un sy'n cyflawni trosedd neu'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn cael eu herlyn."

Fis Ionawr roedd trafferthion mewn gêm arall rhwng timau o dde Cymru a Bryste, pan wnaeth cefnogwyr Caerdydd fandaleiddio toiledau yn stadiwm Bristol City.